Bianco

Mae NoFit State yn enwog yn rhyngwladol am berfformiadau syrcas cyfoes byw, dramatig. Maen nhw’n cyfuno sgiliau sy’n eich gadael yn geg-agored gyda mireinder afreolus ac awch chwyldroadol ac maen nhw yn ôl gyda BIANCO.

Mae BIANCO yn brofiad promenâd sy’n lapio o’ch cwmpas, gyda’r perfformwyr uwch ben, tu ôl ac o gwmpas cynulleidfa sydd ar ei thraed trwy’r cyfan. Mae’r naratif yn datblygu’n barhaus i gyfeiliad trac sain hudolus gan fand byw a’r profiad theatrig yn eich meddiannu’n llwyr. Peidiwch â’i golli.

O dan law Firenza Guidi, y cyfarwyddwr, gyda chast o safon byd-each, mae NoFit State yn dal i ailddyfeisio syrcas gyda’r perfformiad mawreddog hwn a fydd yn mynd ar daith unwaith eto yn 2015.