Ein Stori Ni

Sefydlwyd NoFit State ym 1986 gan bump o ffrindiau. Yn ystod cyfnod gwleidyddol cythryblus o ddirwasgiad, ac fel ymateb creadigol i’r byd o’u cwmpas, ganwyd y syrcas.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae NoFit State yn dal i gredu bod y cyfanwaith yn cyfrif mwy na’r rhannau unigol. Mae’r cwmni’n byw gyda’i gilydd, yn gweithio gyda’i gilydd, yn bwyta gyda’i gilydd, yn chwerthin ac yn crio gyda’i gilydd – gan deithio mewn tryciau, trelars a charafanau ac yn caru ac anadlu fel un gymuned. Dyma beth sy’n creu ysbryd NoFit State ac yn rhoi’r galon a’r enaid yn y gwaith.

Mae syrcas gyfoes yn cyfuno cerddoriaeth fyw, dawns, dylunio llwyfan, testun a ffilm gyda sgiliau syrcas traddodiadol. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned deithiol sy’n cyrraedd, yn codi pabell, yn denu cynulleidfa, ac wedyn yn gadael gyda dim ond glaswellt gwastad ac atgof i ddangos iddynt fod yno. Y syrcas yw’r dieithriaid sy’n byw yn ein plith – ac os byddwn yn rhedeg i ffwrdd i ymuno â nhw, rydym yn cefnu ar ein hataliadau, ein confensiynau, rheolau cymdeithas sefydlog. Rydym yn mynd ar y ffordd gan wybod nad oes cyrchfan – dim ond taith.

Heddiw, NoFit State yw’r cwmni syrcas gyfoes mwyaf blaengar yn y DU ar raddfa fawr, sy’n creu cynyrchiadau teithiol proffesiynol ac amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol, hyfforddiant ac addysg i bobl o bob oed.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau teithiol NoFit State wedi ymweld â 15 o wledydd gwahanol, wedi perfformio i gynulleidfaoedd o fwy na 250,000 o bobl, wedi cael eu canmol gan feirniaid ac wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol mawreddog ym myd y celfyddydau.