The Early Days

A history by Founder Member, Ali Williams

Hanes gan yr Aelod Sefydlu, Ali Williams

When college finished there were five of us: Dave Williams, Peter Gregory, Richie Turner, Tom Rack and myself, Ali Williams. We shared an interest in juggling and partying, and Pan orffennodd y coleg, roedd pump ohonom ni: Dave Williams, Peter Gregory, Richie Turner, Tom Rack a fi, Ali Williams. Roeddem yn rhannu diddordeb mewn jyglo a mynd i bartïon, ac yn eithaf penderfynol i osgoi cael swydd i oedolyn. Doedd gennym ddim arian a dim swyddi yn y dyddiau hynny – ond doedd gan weddill Prydain ddim arian na swyddi chwaith.

Gan fyw dan Thatcher, fe wnaethom gofrestru ar y ‘Cynllun Lwfans Menter’, ac ennill £40 yr wythnos. Doedd gennym yr un ddimau goch, ond fe wnaethom ddefnyddio perswâd, benthyca a dyfeisio i greu sioeau. Rydym yn ddyledus i’r rhwydwaith enfawr o deulu a ffrindiau am lawer o’n llwyddiant – fe wnaeth rhai ohonyn nhw helpu heb yn wybod iddynt.

Balls Up Jugglers

Dechreuodd y cyfan pan wnaethom gyfarfod â Toby Philpott, sef pypedwr enwog ym myd y ffilmiau a oedd wedi gweithio ar bob un o’r ffilmiau mawr - Labyrinth, The Dark Crystal, Return of the Jedi a Little Shop of Horrors, o enwi dim ond rhai. Dechreuodd glwb jyglo i fyfyrwyr yn y brifysgol, ac roeddem wedi gwirioni arno. Myfyriwr ffisiotherapi oeddwn i ar y pryd, ac roeddwn i’n aml yn cael pryd o dafod am jyglo ag orennau cleifion a defnyddio eu fframiau zimmer i falansio. Nid oedd codi calonnau pobl yn cael blaenoriaeth, ac eto roedd pobl o hyd yn gofyn i mi wneud pethau yn eu partïon Nadolig. Ffurfiwyd Balls Up Jugglers ac aeth Toby â ni i fysgio yn dre. Roeddwn i’n teimlo embaras, ond rhoddodd rhywun ddwy geiniog i ni a dweud “Jyglwch hwnna rhyngoch chi”. Ar ôl cael ychydig fisoedd yn fwy o ymarfer, a llawer o frwdfrydedd a phenderfyniad, gallem fynd i dre, gwneud sioe ac ennill digon o arian i aros yn y dafarn drwy’r nos!

I fod o ddifri (am y tro), buom yn gweithio’n galed yn creu rwtinau, yn dysgu sgiliau newydd, yn arbrofi â nhw yn gyhoeddus - ac ymhen tipyn, roeddem yn cael ein gwahodd i weithio mewn gwyliau, ffeiriau a phartïon lleol. Roeddem yn parhau i gael ein Lwfans Menter, felly roedd yr holl arian roeddem yn ei ennill yn cael ei ail-fuddsoddi mewn propiau a gwisgoedd (rhai cartref yn bennaf). Yr athroniaeth gynnar oedd y byddem yn gallu parhau ar yr amod ein bod yn dal ati i wella, ac roedd llawer o le i wella bryd hynny! Ym 1987, fe wnaethom ennill gwobr Busnes Cymunedol Cymreig y flwyddyn, ac ym 1988, fe wnaethom ennill gwobr Diddanwyr Strydoedd Caerdydd y Flwyddyn gyda thair sioe, sef Risky in Pink, The Dangerous Duo a’n darn cyntaf o theatr syrcas i deithio mewn pabell syrcas i Arts Play Umbrella.

Y babell

Erbyn 1990, roedd eisiau ein pabell ein hunain a’n sioe ein hunain arnom. Roeddem ni wedi gweld cwmnïau eraill yn ei wneud, roeddem yn gwybod bellach beth oedd ‘syrcas newydd’ ac eisiau bod yn rhan ohoni. Yn ffodus, roedd rheolwr nawdd ASW, sef cyflogwr mwyaf Caerdydd, wedi’n gweld ni ac wedi syrthio mewn cariad â’r Picsis o sioe A Wish Washes Whiter. Cynigiodd ein noddi gyda £5,000 i brynu pabell newydd. Daethom o hyd i’r babell a phecyn ail law, ynghyd â thryc hen iawn, ond byddai’n costio ddwywaith yn fwy i’w brynu na’r hyn a gynigiwyd i ni. Dyma pan ddechreuodd ein ffrindiau helpu. Fe wnaethom werthu gwerth £5,000 o fondiau £10 i godi’r arian a chynnal parti bob blwyddyn i ddweud diolch. Yn eithaf buan wedyn, fe brynon ni ein top mawr cyntaf. Ar ddechrau’r 90au, buom yn teithio mewn parciau ledled y DU, gyda sioeau theatr syrcas i deuluoedd yn yr haf ac yn gwneud gwaith cymunedol ac yn addysgu yng Nghaerdydd yn y gaeaf.

Mynd heb seddi

Un gaeaf, dyluniodd Tom fanc newydd gyda 350 o seddi a threuliodd tua 5 mis mewn sied; yn llifio, yn hogi, yn torri, yn weldio. Parodd y seddi am 12 mlynedd cyn cael eu dwyn a chael eu pwyso ar gyfer sgrap! Bob gwanwyn, byddem yn ymarfer mewn cae mwdlyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddem ar y ffordd o fis Mai tan fis Medi. Doedd y dyddiau cyffrous a byrbwyll hyn o ryddid, yn teithio o un dref i’r llall, ddim yn ddi-straen, a byddai’r lorïau a oedd yn hen iawn, yn torri i lawr yn aml. Ond roeddem ni’n byw’r freuddwyd, yn dal i wella, yn gwneud bywoliaeth, ac roeddem wrth ein boddau.

Ym 1993, roeddem wedi ffurfio adain gymunedol, sef Syrcas y Sblot, a chawsom ein gwahodd i weithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru ar Opera Y Sblot. Fe wnaethon nhw ein haddysgu ynglŷn â sut i greu gwaith cymunedol ar raddfa fawr, gwneud setiau mawr a chael gwerthoedd cynhyrchu priodol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hyn.

Yn haf 1995, buom yn gweithio gyda Firenza Guidi ar ein sioe bromenâd gyntaf, sef Autogeddon. Autogeddon oedd y digwyddiad syrcas bromenâd cyntaf wedi’i gofnodi yn y DU. Roeddem yn ymdrechu i fod ar flaen y gad. Nid oedd hyn dim ond oherwydd nad oeddem yn gallu fforddio seddi yn y warws, wir! Roedd Tom yn y coleg yn astudio’r Celfyddydau Rhyngweithiol ac roeddwn i’n mwynhau gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol. Aethom ati i gyfuno ein doniau, cael rheolwr cynhyrchu go iawn, gwneud cynnig agored i’r gymuned gymryd rhan. Yn y diwedd, roedd gennym sioe syrcas gyda fideo, gosodiadau, 120 o berfformwyr cymunedol a phyro-dechnegwyr gwirion. Cawsom adolygiad gwych yn The Guardian hefyd. Nawr dyna beth oedd Celfyddyd! Dyna beth ddywedom ni wrth y frigâd dân a ddaeth i ofyn pwy oedd yn ffrwydro ceir mewn ystâd ddiwydiannol yn Butetown.

Parhaodd y teithio pabell yn y 90au, ac wedyn daeth y Loteri gan annog twf gwaith cymunedol. Roedd prosiect Autogeddon wedi cyffroi pob un ohonom, ac wedi creu llawer o bosibiliadau. Roedd gweithio gyda’r gymuned yn rhoi boddhad, yn heriol ac yn hwyl, a nawr roeddem yn gallu cael cyllid i gefnogi’n gwaith. Fe wnaethom gynnal rhaglen o sioeau cymunedol ar raddfa fawr, 'Stepping Stones to The Millennium' am dair blynedd – roedd gweithio eto gyda’r gymuned a chyfarwyddwr, cefnogwr a galluogwr gwych arall, Orit Azaz, yn ffordd wych o ddatblygu syniadau newydd, a chreu cwmni mawr o ddarpar berfformwyr syrcas gyda gwybodaeth am ein harddull ni, a phrofiad ohoni.

Roedd angen pabell fwy arnom

Ac felly roeddem yn barod i ystyried teithio ar raddfa fawr gydag ambell rwystr ar ôl i’w goresgyn ar y ffordd: er enghraifft, cael pabell fwy a gafodd ei hariannu eto gan y Loteri, ond roedd yn golygu bod angen i ni geisio codi £60,000 mewn cyllid cyfatebol. Y tro hwn, roedd y bondiau wedi’u prisio ychydig yn uwch am £100 yr un. Cymerodd amser i ni godi’r arian ac fe gawsom gyfarfyddiadau amheus gyda rhai cymeriadau annymunol – felly fe wnaeth y trawma a’r ddrama o gael ein pabell newydd hyfryd ein rhwystro rhag teithio am ychydig o flynyddoedd wrth i ni ganolbwyntio ar wireddu lefel nesaf y freuddwyd, sef creu syrcas gyfoes broffesiynol â phabell ar raddfa fawr. Yn 2002, aeth y cwmni’n ôl ar y ffordd yn y babell las gyda Sci-Circus a oedd yn cael ei ariannu gan y Flwyddyn Wyddoniaeth. Sioe wyddoniaeth bromenâd ryngweithiol oedd hon, ac fe wnaethom y fersiwn gymunedol o ImMortal yn y babell newydd. Roedd proffil y syrcas gyfoes wedi tyfu, ac yn 2004, cawsom arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i greu’r fersiwn broffesiynol o ImMortal.

Mi roddaf y gorau iddi yma gan mai hanes diweddar yw’r gweddill, a gallwch weld canlyniadau’r teithio a’r hyfforddiant proffesiynol drosoch eich hun. Mae wedi bod yn daith, yn ymdrech, yn arwrol ar adegau, ond mae gennym y brwdfrydedd a’r cariad o hyd, ac rydym yn dal i gredu y gallwn ymdrechu i fod yn well, felly cewch wybod rhagor maes o law!