Drymiwr llawrydd ac offerynnwr taro yw David Insua-Cao. Daw'n wreiddiol o Croydon, de Llundain, symudodd i Fanceinion i astudio yn y Royal Northern College of Music 2004-8 ac erbyn hyn mae'n byw yn Todmorden, Calderdale. Mae David wedi perfformio ym Mhrydain a thramor gyda gwahanol gwmnïau theatr a syrcas yn cynnwys Giffords Circus, Circo Raluy (Catalonia), cwmni theatr stryd Ramshacklicious, cwmni theatr Can’t Sit Still, theatr gomedi Spymonkey, a chwmni theatr 1927. Bu'n perfformio mewn gwyliau celfyddydol rhyngwladol yn cynnwys, Melbourne, Spoleto Charleston, Shanghai a Chaeredin.
Mae David yn perfformio gyda grwpiau a pherfformwyr fel yr artist affro-ddyfodolaidd Nwando Ebizie, y band pop vintage The Black Shakes, Mr Wilson’s Second Liners a’r offerynnwr taro Delia Stevens.
Mae David yn gweithio i elusen Jessie’s Fund - sy’n helpu plant ag anghenion ychwanegol a chymhleth i gyfathrebu trwy gerddoriaeth. Yn ogystal, mae'n gweithio i Music for the Many, elusen yn Todmorden sy'n darparu cyfleoedd cerddoriaeth am ddim i blant yn yr ardal. Mae'n cyfeilio mewn dosbarthiadau dawns gyda chwmni CAT yn y Lowry. David sy'n rhedeg y Calderdale Fantasy Orchestra yn Todmorden, grŵp cynhwysol sy’n chwarae amrywiaeth eclectig o gerddoriaeth o Dun Ra i David Bowie, o Radiohead i Beverly Glenn-Copeland gyda phwyslais ar fyrfyfyrio.