Artist syrcas ac awyrgampwraig yw Kate. Fe'i ganed yn Llundain a dechreuodd ei gyrfa ym maes Iechyd y Cyhoedd yn y GIG, lle cafodd lawer o brofiad o weithio mewn partneriaethau a rheoli prosiectau. Fodd bynnag, ar ôl cael cyflwyniad i syrcas trwy fynychu dosbarthiadau cymunedol, sylweddolodd fod gan syrcas lawer i'w gynnig i les a hapusrwydd pobl.
Penderfynodd mai dyma roedd hi i fod i'w wneud a, chyn pen dim, rhedodd i ffwrdd gyda'r syrcas. Cafodd le yn y Ganolfan Genedlaethol Celfyddydau Syrcas (NCCA) ac mae’n un o’r rhai cyntaf erioed ym Mhrydain i ennill Diploma Ôl-raddedig mewn Celfyddydau Syrcas, gan arbenigo yn y trapîs siglo.
Ers hynny, bu'n gweithio i nifer o syrcasau teithiol ledled Ewrop, mewn gwyliau a digwyddiadau corfforaethol. Mae wedi dysgu syrcas i oedolion a phlant, yn y London Youth Circus, a bu’n dysgu ar y Btec cyntaf mewn syrcas yn yr NCCA. Rhwng cytundebau, bu'n hybu ei datblygiad proffesiynol trwy dreulio cyfnodau ym Montreal yn gweithio gyda hyfforddwr Cirque du Soleil, Victor Fomine, sy’n adnabyddus am wthio ffiniau posibilrwydd a datblygu technegau newydd ar gyfer y trapîs siglo a dysgu'r grefft.
Erbyn hyn, mae’r siwrnai ryfeddol hon i fyd y syrcas wedi dod â hi i Gaerdydd heulog ddisglair i reoli a datblygu rhaglen gymunedol NFS.
Gwybodaeth Cyswllt
- Email Address
- [email protected]