Neidio i'r prif gynnwys
CCB Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023

CCB Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023

15 December - 15 December | Masterclasses and One Offs


Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Pharti Nadolig 2023

Nos Wener 15 Rhagfyr 2023, 6.30pm – 12am


NoFit State Community Circus, Four Elms, Four Elms Road, Caerdydd CF24 1LE

Eleni, caiff ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ei ddilyn gan barti Nadolig NoFit State, gyda cabaret syrcas gymunedol, tryciau bwyd, dj, a bar.

CCB

o 6.30pm ymlaen

Cynhelir y CCB bob blwyddyn, a dyma pryd rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw ein cynlluniau.

Yn y cyfarfod, caiff ein cyfrifon blynyddol eu cyflwyno a’u cadarnhau, ac mae cyfle i’r aelodau astudio’r dogfennau a gofyn cwestiynau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r staff.

Bydd angen i chi fod yn aelod o’r cwmni i bleidleisio yn y CCB ond peidiwch â phoeni, mae ymuno’n hawdd! Dim ond £5 y flwyddyn yw Aelodaeth o’r Cwmni a gallwch ei dalu ymlaen llaw trwy gysylltu â’r Dderbynfa (02920 221 330) neu yn y CCB ei hunan.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni.

Zoom

Bydd pobl sy’n byw yn bellach neu a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn cyfarfod rhithwir yn gallu dewis ymuno â’r CCB ar Zoom. Dilynwch y ddolen isod i gadarnhau’ch lle.

Parti Nadolig

o 8pm tan 12am

Parti Nadoligo 8pm tan 12amAr ôl y CCB rydyn ni’n cael parti! Bydd perfformiadau cabaret syrcas Nadoligaidd gan aelodau ein cymuned, perfformiad byw a DJs tan yn hwyr.

Cewch brynu bwyd o dryciau bwyd hyfryd tu allan. Bydd gennym far ac mae croeso i chi ddod â’ch diodydd eich hunan hefyd os dymunwch.Mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y CCB neu’r parti, neu’r ddau! Byddai’n braf eich gweld chi yno.

Mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y CCB neu’r parti, neu’r ddau!
Byddai’n braf eich gweld chi yno.
*
*
*
*
*

* maes gofynnol

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×