Stori ein Rhaglen Gymunedol
Ganwyd NoFit State yn Sblot dros 35 mlynedd yn ôl ac mae ein taith wedi mynd â ni o ddwyrain Caerdydd ledled y byd. Ond, lle bynnag yr aethom, rydym bob amser wedi dod adref, gan ddod â phopeth rydym wedi'i ddysgu a'i ddarganfod gyda ni. Cawn ein hysbrydoli gan y bobl rydym yn cwrdd â nhw, y sgyrsiau a gawn, y llawenydd creadigol a welwn mewn eraill. Dyma sy'n rhoi calon ac enaid a phwrpas i'n gwaith.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae pawb ohonom yn teimlo bod mwy a mwy o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder cymdeithasol yn effeithio ar ein cymunedau ac mae difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd yn dod yn gliriach bob dydd. Ymateb uniongyrchol i hyn yw ein Rhaglen Gymunedol. Wrth ddod allan o’r Pandemig, daeth yn amlwg fod angen gweithredu ar y cyd ar frys ac y gallem ni (fel sefydliad angori) chwarae rhan bwysig. Rydym yn meithrin cysylltiadau rhwng pobl ac o fewn cymunedau gan ganolbwyntio ar ein rhaglen sydd am ddim.
Rydym wedi meithrin rhwydwaith cryf o bartneriaid a chydweithwyr - cynghrair bwerus o elusennau trydydd sector, artistiaid a chyrff statudol sydd wedi dod ynghyd i drawsnewid un o ardaloedd tlotaf a mwyaf difreintiedig Cymru. Gyda’n gilydd rydym ni, partneriaeth ‘Square Mile / Milltir Sgwâr’, wedi cyd-greu rhaglen gyfoethog ac aml-haenog, ddi-dâl, ar gyfer blwyddyn gyfan o weithgareddau creadigol, diwylliannol ac addysgol ac wedi cynhyrchu digwyddiadau cyhoeddus ysbrydoledig gan gynnwys Gŵyl Stryd Clifton 2022, Park Light 2023 a Gwledd Park Feast 2023.

Beth rydym yn ei wneud a pham
Rydym yn benderfynol o adeiladu tegwch ac adennill mannau cyhoeddus, gan gydnabod bod rhaid cael naratifau a lleisiau amrywiol bob amser mewn cymdeithas gref ac iach. Dim ond trwy gyd-greu, cydberchnogaeth a chydweithio gwirioneddol y gellir cyflawni hyn.
Rydym yn defnyddio'r celfyddydau i wella ansawdd bywyd pawb yn ein cymuned, i rymuso pawb a'u galluogi i gydnabod eu creadigrwydd eu hunain, i ddathlu ein hamrywiaeth a'r hyn sy'n ein clymu ynghyd. Rydym yn datblygu rhaglenni gwaith ac yn meithrin perthnasoedd hirdymor i greu ymddiriedaeth a sicrhau effaith barhaus. Mae ein gwaith yn amlhaenog i ddiwallu gwahanol anghenion ac mae'n sicrhau gwahanol byrth at y rhaglen.

Cefnogwyr Cymunedol
Mae ein tîm o dri chefnogwr cymunedol (pobl leol sydd â phrofiad amrywiol o fywyd) yn weithgar yn y gymuned; yn datblygu perthnasoedd ac ymddiriedaeth trwy sgwrsio a thrafod ac yn cyflwyno lleisiau'r trigolion lleol i'r partneriaid.
Dewch i gwrdd â'n cefnogwyr cymunedol Pearl, Sharon a Kelly.

Partneriaethau
Rydym yn cydweithio â phartneriaid amrywiol yn cynnwys elusennau trydydd sector, artistiaid a chyrff cyhoeddus. Yn ogystal, rydym yn cynnal cyfarfod o'r Play Action Group (PAG) bob tymor gyda llawer o bartneriaid eraill i gynllunio cyfleoedd chwarae i blant a’u teuluoedd yn ein hardal.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydweithiau hyn sy'n tyfu yn nwyrain Caerdydd?
Os ydych yn gwneud gwaith sy'n canolbwyntio ar ein hardal ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cysylltwch â:
Jo Taylor, Rheolwr Prosiectau Cymunedol.

Cymryd Rhan a Gwirfoddoli
Rydym yn cydweithio â gwirfoddolwyr cymunedol ar lawer o brosiectau a gweithgareddau.
Os hoffech gyfrannu'ch sgiliau, eich amser, eich profiad a'ch arbenigedd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn agored i'ch awgrymiadau. Anfonwch neges atom a dweud wrthym beth yw'ch diddordebau a sut yr hoffech gyfrannu.
I gymryd rhan cysylltwch â:
Ebost: [email protected]
Ffôn: 02920 221 330
WhatsApp: 07500970567