Mae Cymuned NoFit State a Phartneriaeth Milltir Sgwâr yn falch o gael cyflwyno Golau Parc Light: Gŵyl Tân a Golau. Dyma ddigwyddiad cymunedol sydd am ddim ar gyfer pobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa yn nwyrain Caerdydd. Bydd yn digwydd ym Mharc Helen/Parc y Bragdy rhwng 5:00 a 7:30 o'r gloch nos Wener 16 a nos Sadwrn 17 Chwefror 2024.
Ar y ddwy noson, byddwn yn troi Parc Helen/Parc y Bragdy yn baradwys o oleuni, llawn gweithgareddau di-dâl a bydd cacen a siocled poeth ar gael am ddim. Am 6:30 bydd sioe anhygoel yn cynnwys perfformiadau syrcas, cerddoriaeth a thân gan artistiaid lleol dawnus.