Neidio i'r prif gynnwys
Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_1798_Credit_Andrew_Moore.jpg

Gŵyl Parc Fest - Bamboo 2024 Rhaglen

Croeso. Yma cewch ragor o wybodaeth am bethau i'w gweld a'u gwneud yn yr ŵyl a phwy sydd wedi helpu i'w trefnu.

Parêd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae 'Gŵyl Parc Fest - Bamboo' yn ddathliad o gelfyddydau, diwylliant a chymuned anhygoel yr ardal fach hon.

Ymunwch â'r Parêd Bambŵ ar gyffordd Stryd Clifton a Gold Street am hanner dydd wrth i ni fynd ar orymdaith i Barc Anderson.

Parêd Treiciau Bambŵ – gweithiau celf wedi'u creu gan Flow Maugran, Faith Bebbington, Fadi Bobi, Maeve Corke-Butters, Becky Bryson
Y Fenyw Fambŵ – wedi'i chreu gan Rhianna Yates
Adam – wedi'i greu gan Nikki ac Alice Fogarty
Barracwda
Aurora Trinity Collective
Oasis gyda Chôr Un Byd Oasis
Calon y Byddar / Deaf Hub Wales
Perfformwyr Tŷ Adar
Perfformwyr Cymunedol NoFit State

Yn y Parc

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gweithiau Celf a Strwythurau Bambŵ

Dilynwch drywydd gweithiau celf a gosodweithiau bambŵ, wedi'u gwneud gan artistiaid a grwpiau lleol ac artistiaid gwadd o Ranbarth Dinas Lerpwl:


Pingla Sun gan Flow Maugran. Dathliad o'r hyn y gallwn ei greu â bambŵ a deunyddiau eraill sy'n organig, wedi'u hailgylchu neu'n ailgylchadwy. Gwnaed mewn cydweithrediad â thrigolion lleol yng Ngerddi'r Rheilffordd. 

Coeden Gofidiau Gwnaed gan Holly Jewell ar ran Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot.
Beth sy'n dy boeni di ar hyn o bryd?  Wyt ti'n gofidio am rywbeth? Ysgrifenna dy bryderon a rhoi dy ofidiau i'r goeden i gael eu colli fel dail yr hydref. Gan Wirfoddolwyr Cymunedol Sblot gyda Holly Jewell.  

Prosiect y Fenyw Fambŵ Cafodd ei dylunio a’i chreu gan Rhianna Yates, wedi’i hysbrydoli gan sgyrsiau gydag Ieuenctid Cymru Ddiogelach. Hwyluswyd y prosiect gan Rowan Whitehead. Dyma byped sy'n ymgorffori nerth ac undod menywod yn ein cymuned. Trwy gelf a pherfformio, mae'n dathlu lleisiau menywod, gan ein grymuso i fynegi'n hunain, ymgysylltu, a chanfod ein lle yn y gymdeithas ehangach trwy fawrygu'r benywdod sydd gennym yn gyffredin.


Bam-Fainc – Gwnaed gan Ieuenctid Cymru Ddiogelach a'r artist Valentine Gigandet. Edrych ar fannau diogel i ferched a menywod. Mae croeso i chi sbecian drwy’r rhubanau ac eistedd, ond peidiwch â dringo arni.


Y Pod gan Faith Bebbington. Ysbrydolwyd gan strwythur celloedd bambŵ o dan y microsgop.


Fframio Natur gan Becky Bryson. Gwahoddiad i edrych yn wahanol ar bethau – mae croeso i chi dynnu hunlun ym mhob un o'r 4 gwaith celf a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ImagineBamboo


Crymu Llinell Syth gan Hannah Bold. Cyfle i greu cromlinau hardd o linell syth.


Parêd Treiciau Bambŵ – gweithiau celf wedi'u creu gan Flow Maugran, Faith Bebbington, Fadi Bobi, Maeve Corke-Butters, Becky Bryson, Jo Pocock


Baneri gan Calon y Byddar / Deaf Hub Wales – man cyfarfod i bobl fyddar
 

Cymerwch Ran

Dewch i ymuno mewn gweithgareddau a gomisiynwyd yn arbennig – crefftau bambŵ, creu cerddoriaeth, chwarae, syrcas, parkour a sgyrsiau trwy'r dydd:


Jam Miwsig a Straeon gyda Stacey Blythe a Bevin Magma – galwad ar gerddorion ac artistiaid y gair llafar i gyfarfod yn y coed i rannu syniadau a chreu synau newydd

Yr Orsaf Bambŵ gyda Johana Hartwig a Rhian Halford – mynd i'r afael â deheurwydd a chreadigrwydd, ar sail egwyddorion Ysgolion Coedwig a arweinir gan blant

Chwarae â Bambŵ gyda Seren yn y Gymuned 

Tynnu Lluniau Bambŵ gyda Francis Maxey a Megan Lloyd 

Y Llygad Creadigol gyda Rachel Walsh

Adar Paradwys gyda Valentine Gigandet

Ysgrifennu Creadigol Pingala Sun gyda Flow Maugran

Blodau Cylchgrawn gyda Gerddi'r Rheilffordd

Gweithdai Syrcas Bambŵ gyda Nofit State

Gweithdy Parkour gyda Fluidity Freerunning

Paentio Murlun gyda Alex Pawson
 

Perfformiadau

Y Prif Lwyfan

12:40     Côr Un Byd Oasis – Ni'n Caru Bambŵ 
Comisiwn Bambŵ i greu offerynnau cerdd a chaneuon newydd wedi'u hysbrydoli gan fambŵ
13:00     BAMBOO Nofit State 
 Y perfformiadau cyntaf yng Nghaerdydd o sioe deithiol awyr-agored newydd Nofit State
14:00     Juma ‘Cheng-Du’
Comisiwn Bambŵ:  Comisiynwyd Madelena Juma i greu a pherfformio'r gân newydd hyfryd hon, ar y cyd â'r cerddor Jo Haynes.
14:20     Jukebox Collective - Dawns Stryd
Dawnswyr lleol gwych yn dangos eu doniau!
14:40     Cwmni Teulu Dawns  – Dawns Affricanaidd
13:10     Devi and Company – Dawns Indiaidd    
13:45     BAMBOO Nofit State
16:30     Jam Miwsig Bambŵ gyda Stacey

Croeso i gerddorion a phawb arall i ymuno â Stacey i greu cerddoriaeth bambŵ-Cymreig
16:45     Barracwda
Drymio a dawnsio SAMBA gwych i gloi'r ŵyl
17:00 Diwedd

Yn y Parc

13:50 a 14:50 Nofit State Community STICKS

Comisiwn Bambŵ: Mae criw o berfformwyr lleol wedi bod yn cydweithio â chyfarwyddwr BAMBOO, Mish Weaver i weld beth y gallant ei wneud â bambŵ a dyfwyd yn y DU. 

Cydnabyddiaeth

Mae llawer o unigolion a sefydliadau wedi helpu i roi'r ŵyl at ei gilydd. Rydych chi'n gwybod pwy ydych chi. 

Cyflwynydd/MC: Mujib Oloye

STICKS: Crëwyd a Pherfformiwyd ganOgen Laureki Nkwabi, Seren Gwylfai, Ryan Pritchard, Immie Hughes, Julie Urquhart, Guy Herrmann, Sharon Piccardo, Nikki Williams, Jenny Oates, Norbert Metstak, Marzena Fijalkowska; Hwyluswyr: Hannah O’Leary, Kevin McIntosh, Lee Scott Tinnion, Molly Richmond. Costume: Rhiannon Matthews. Cyfarwyddwr Mish Weaver.

Adar Paradwys: Crëwyd a Pherfformiwyd gan Sarah Bayliss, Tom Crocker-Wilton, Naomi Dhillom, Laura Deaves, Elle Edwards, Kevin McIntosh, Hannah O’Leary, Laura Westacott, Ginger Wiegand. Composer: Ashley John Long. Rigger: Lee Tinnion; Bamboo Bird Design: Valentine Gigandet ; Costume: Rhiannon Matthews. Directed by Elle Kate and Hannah O’Leary. Soundscape created with kind support of Birdhouse friends and family

Côr Un Byd Oasis: o dan arweiniad Laura Bradshaw a Tracy Pallant, gyda Mujib Oyole

NoFit State BAMBOO

Sefydliadau ac artistiaid a gomisiynwyd fel rhan o brosiect Bamboo

Aurora Trinity Collective
Syrcas Tŷ adar
Flow Maugran
Calon y Byddar / Deaf Hub Wales
Fluidity Freerunners
Francis Maxey a Megan Lloyd
Johana Hartwig a Rhian Halford 
Madelena Juma
Ministry of Life
Oasis
Côr Un Byd Oasis 
Grwpiau Syrcas Cymunedol NFS a Thîm ICAT
Rachel Walsh
Rhianna Yates 
Cymru Ddiogelach
Rowan Whitehead
Seren yn y Gymuned
Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot
Valentine Gigandet

Tîm y Prosiect 

Cynhyrchydd: Kate Parry
Cynhyrchydd Cynorthwyol: Valentina Solari Vodanovic 
Cynhyrchydd Cymunedol: Jo Taylor
Cyfarwyddwr Creadigol: Imagine Bamboo Orit Azaz
Rheolwr Cynhyrchu: Matt Davies
Rheolwyr Llwyfan: Hannah Hunter and Eilir Tudno
Dylunio Graffeg: Anna Searle ac Devika Sunand 

Diolch i'r holl staff, partneriaid y Filltir Sgwâr, y criw, y stiwardiaid, y gwirfoddolwyr, ffrindiau a theulu.

Cynhelir Gŵyl Parc Fest mewn cydweithrediad ag Orit Azaz, cyfarwyddwr creadigol Imagine Bamboo, gydag Imagineer Productions.

Diolch i Ranbarth DinasLerpwl a Culture Liverpool am eu cefnogaeth

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×