beth yw'r filltir sgwâr?
Gweithgareddau ar gyfer y gymuned yn ardal fechan Adamsdown, Sblot a Thremorfa yw gweithgareddau'r Filltir Sgwâr.Sesiynau syrcas a gweithgarwch sy'n addas i ddechreuwyr ydynt. Mae llawer yn sesiynau galw-heibio neu'n addas i deuluoedd ac maent am ddim!
Chwiliwch yma am Ddosbarthiadau Milltir Sgwâr
(Fe welwch rai o'r gweithgareddau ar ein tudalennau 'Dosbarthiadau' â logo Milltir Sgwâr neu mae'n bosib toglo'r hidlydd chwilio i weld holl ddosbarthiadau'r Filltir Sgwâr.)a gaf i ddod i weithgareddau'r filltir sgwâr?
Caiff y dosbarthiadau a'r gweithgareddau hyn eu hanelu at bobl sy'n byw ger adeilad Four Elms; yn Sblot, Adamsdown neu Dremorfa. Mae croeso hefyd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl sy'n byw mewn tai â chymorth.
Os ydych yn rhan o'n cymuned leol, mae croeso mawr i chi ymuno â ni yn y gweithgareddau di-dâl hyn.
hoffech chi wybod rhagor?
Os nad ydych yn siŵr a gewch chi ddod i'r sesiynau hyn neu os hoffech ragor o wybodaeth, dewch draw i'n hadeilad ar Four Elms Road yn Adamsdown i gael sgwrs wyneb-yn-wyneb â thîm cyfeillgar y dderbynfa.
Neu gallwch gysylltu â ni trwy ffonio 029 2022 1330, ebostio [email protected], neu lenwi'r ffurflen gysylltu isod: