Neidio i'r prif gynnwys
Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_1789_Credit_Andrew_Moore.jpg

Gŵyl Parc Fest - Bamboo 2024

Mae Partneriaeth y Filltir Sgwâr wrth ein bodd yn cyhoeddi ein prosiect diweddaraf ‘Bamboo’ yn nwyrain Caerdydd.

Gŵyl Parc Fest - Bamboo

Mae 'Gŵyl Parc Fest - Bamboo' yn ddathliad o gelfyddydau, diwylliant a chymuned anhygoel yr ardal fach hon.

Cynhelir yr Ŵyl sydd AM DDIM ar 31 Awst 2024 yng Nghaeau Anderson, Adamsdown, Caerdydd, CF24 0EG. Bydd y diwrnod yn dechrau â pharêd am 12:00 o Stryd Clifton ar gornel Gold Street, gan arwain i Gaeau Anderson. Bydd yr ŵyl yn dechrau am 12:30 a'r hwyl yn para tan 5:00pm. 

Eleni rydym yn edrych i weld sut y gallwn ni gael ein hysbrydoli i greu, chwarae a dychmygu gan ddefnyddio bambŵ, un o'r deunyddiau cynaliadwy mwyaf rhyfeddol ar y blaned.

Ymunwch â ni am ddathliad llawen gyda cherddoriaeth, syrcas, celf a chrefft, gweithiau celf a gosodweithiau bambŵ, gweithgareddau, sioe syrcas BAMBOO a pherfformiadau gan artistiaid a grwpiau cymunedol o Sblot, Tremorfa ac Adamsdown. Bydd bwyd ar gael i'w brynu. Mae'r Ŵyl yn addas i bob oed, gyda rhywbeth at ddant pawb!

Tyfodd BAMBOO allan o brosiect ar y cyd rhwng Imagineer, Orit Azaz a NoFit State er mwyn archwilio pa strwythurau, straeon a pherfformiadau syrcas y gellir eu creu â bambŵ wedi’i dyfu yn y DU.

Parade route.png
Parade route
Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_3502_Credit_Andrew_Moore.jpg

BAMBOO Show by NoFit State

Mae BAMBOO yn gynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd trawiadol, sgilgar, ysblennydd sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl - gan ddangos harddwch a breuder ein bywydau rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol ar y blaned hon.

Cewch wylio'r sioe am ddim yn Nwyrain Caerdydd:

  • 31 Awst yn 'Gŵyl Parc Fest - Bamboo' yng Nghaeau Anderson am 1pm a 3.30pm
  • 1 Medi ym Mharc Sblot (ger Hyb STAR), Heol Muirton am 12pm
Darllen mwy
GPFMaryWycherley-415.jpg

Gweithgareddau Haf Rhad ac Am Ddim 2024

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau lleol ac artistiaid llawrydd i gynnig rhaglen o hwyl haf ar gyfer y gymuned leol. Cewch ddewis o blith nifer o weithgareddau AM DDIM, yn cynnwys syrcas, cerddoriaeth, chwaraeon, a chelf a chrefft, i'ch cadw chi a'ch teulu'n brysur dros wyliau'r haf! Bydd NoFit State Circus, Green Squirrel, Oasis, Trinity Aurora Collective, Seren yn y Gymuned, Gwasaneth Ieuenctid Caerdydd, Boomerang, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, YMCA a Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot yn darparu'r rhaglen gyffrous o weithgareddau ar hyd a lled yr ardal.

Sesiynau galw heibio oedd y rhan fwyaf, ond roedd angen cadw lle ymlaen llaw mewn ambell un. 

Doedd dim rhaid talu am y sesiynau hyn oedd ar gyfer pobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a rhai'n byw mewn llety â chymorth. 

View full summer programme

Sefydliadau ac artistiaid a gomisiynwyd fel rhan o brosiect Bamboo

Rhaglen yr Haf a'r Ŵyl

Flow Maugran: Creu eitem(au) bambŵ i'w gosod ar feiciau tair olwyn a'u haddurno gan y cyhoedd

 Clwb Pobl Fyddar: Creu baneri ag emblem B/byddar i'w rhoi ar bolion bambŵ i'w defnyddio yn y parêd a chreu dawns ar gyfer y parêd, ac i godi ymwybyddiaeth o'r gymuned B/byddar.

 Oasis a Chôr Un Byd Oasis: Gwneud offerynnau bambŵ a chân(euon), dawns ar gyfer yr parêd a’r Ŵyl gyda theuluoedd sy’n ffoaduriaid/ceiswyr lloches; Côr Un Byd Oasis yn cyflwyno set

Francis Maxey + Megan Lloyd: Artistiaid yn creu pinnau ysgrifennu bambŵ a gwaith celf bambŵ yn yr Ŵyl

Gwasanaeth Ieuenctid Cymru Ddiogelach: Creu seddi bambŵ gyda’r artist Valentine Gigandet yn cynrychioli gofod diogel i fenywod a merched sydd mewn perygl o gael eu masnachu, eu hecsbloetio neu ddioddef trais domestig – i ymddangos yn yr Ŵyl.

 

Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot: Creu doliau a ‘choeden ofid’ o fambŵ ar gyfer yr Ŵyl  gyda'r Gwirfoddolwyr

Seren yn y Gymuned: Gwaith chwarae ym mharciau Dwyrain Caerdydd gyda bambŵ

Ministry of Life: Creu eitemau bambŵ gyda phobl ifanc o Dremorfa

Canolfan y Drindod: Creu offerynnau bambŵ a cherddoriaeth ar gyfer y parêd gyda theuluoedd sy'n ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches (bob dydd Gwener)

Rowan Whitehead: Gweithdai grymuso ar gyfer menywod gan ddefnyddio bambŵ i greu eitemau addurnol ar gyfer y parêd a'r Ŵyl 

 

Yr Ŵyl a'r Parêd yn Unig

Syrcas Tŷ Adar: Gosodwaith Adar Paradwys

Fluidity: Perfformiad parkour gan ddefnyddio bambŵ, a gweithdy

Rhian Halford + Johana Hartwig: Sesiwn chwarae ag eitem(au) bambŵ – tebyg i Ysgol Goedwig

Rhianna Yates: Pyped benywaidd 12 troedfedd o fambŵ ar gyfer y parêd

Valentine Gigandet: Gwisg fambŵ ar gyfer y Tŷ Adar (gan gydweithio â Cymru Ddiogelach hefyd)

Madalena Juma: Cyfansoddiad cerddorol gan ddefnyddio offerynnau bambŵ

Creadigaeth Syrcas Gymunedol Mish Weaver: ‘SHELTER’ – perfformiad promenâd â bambŵ yn mynd i'r afael â syniadau am ofodau diogel. Crëwyd gan aelodau dosbarthiadau syrcas NFS, a'i gyfarwyddo gan Mish Weaver (cyfarwyddwr sioe BAMBOO)

Hoffech chi helpu? 

Hoffech chi helpu â'r gwaith o wneud i ŵyl y Filltir Sgwâr a rhaglen yr haf ddigwydd? Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, pobl greadigol, a phobl sy'n egnïol ac yn gynhyrchiol yn yr ardal i'n helpu i gysylltu â'n cymuned leol a'i hysbrydoli. Cysylltwch am sgwrs anffurfiol am sut y gallech chi chwarae rhan. 

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli – ewch yma neu cysylltwch â [email protected]
Os hoffech ragor o wybodaeth am y digwyddiad neu raglen yr haf: cysylltwch â ​​​​​[email protected] neu [email protected] 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×