Wrth feddwl am uchafbwyntiau'r flwyddyn, mae'n anodd dewis ychydig oherwydd mae cymaint yn digwydd yn y cwmni! O'n rhaglen gymunedol sy'n esblygu'n barhaus i gynhyrchiad teithiol SABOTAGE yn y Big Top. O raglen helaeth o ddatblygu creadigol ar gyfer ein cynhyrchiad newydd nesaf, BAMBOO, i ddigwyddiadau a dosbarthiadau sgiliau syrcas rheolaidd, bu'n flwyddyn eithriadol o brysur! Rydy wrth ein bodd â'r hyn rydym yn ei wneud, ac rydynm yn ei wneud â phwrpas.
Ar ddechrau 2023 agorwyd ein hadeilad i bobl yr ardal ar gyfer ein rhaglen Croeso Cynnes. Roeddem yn cynnig gweithdai creadigol, desgiau i weithio, lle i ddod ynghyd a rhannu bwyd a sgwrs. Roedd ein Croeso Cynnes cymunedol yn lle i greu cysylltiadau a sgwrsio â phobl o wahanol gymunedau ein Milltir Sgwâr.
Ym mis Chwefror, cynhaliwyd perfformiad cyhoeddus cyntaf y flwyddyn – Golau Parc Light. Daeth pobl leol ynghyd ym Mharc y Bragdy, Adamsdown i ddathlu ein cymuned gyda noson o syrcas, cerfluniau tân, cerddoriaeth fyw, a gosodweithiau golau.
Roedd y Pentref Syrcas ym misoedd Mawrth ac Ebrill yn tynnu’r sector ynghyd mewn rhaglen greadigol chwe wythnos o weithdai, sgyrsiau a phreswyliadau creadigol. Daeth i ben gyda Gŵyl i ddathlu a dangos rhywfaint o’r gwaith a ddatblygwyd gan y Pentref Syrcas. Roeddem yn falch o gyflwyno The Wing Scuffle Spectacular gan The Revel Puck Circus, Bitchcraft gan Kitsch & Sync Collective, The Big Erection gan Circus Purposeless, Smile gan Leyton John a Turk (ish) gan Poppy Plowman i bobl Abertawe.
Yng Ngŵyl y Pentref Syrcas cafwyd perfformiadau agoriadol SABOTAGE yn Abertawe, cyn i’r cynhyrchiad fynd ar daith i Loegr, Ffrainc a Gwlad Belg a dod â thymor yr haf i ben ym Mhrâg. Perfformiwyd yng ngwyliau mawr Les Nuits de Fourvière, Zomer van Antwerpen a Letní Letná.
Yn y cyfamser, yn ôl yn y rhaglen gymunedol, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf ein Play Action Group ym mis Mai. Diben y grŵp yw dod â sefydliadau cymunedol a chelfyddydol lleol ynghyd i gynllunio a chyflwyno rhaglenni creadigol ar gyfer pobl Adamsdown, Sblot a Thremorfa. Arweiniodd hyn at y gyd-ymgyrch farchnata greadigol gyntaf i hyrwyddo’r holl weithgareddau oedd ar agor i bobl dwyrain Caerdydd dros haf 2023.
Cyfrannodd ein rhaglen gymunedol greadigol dros yr haf at ddiwrnod rhyfeddol o ddathlu cymunedol, Gwledd Parc Feast, yng Nghaeau Anderson ar ddiwedd gwyliau haf yr ysgolion. Daeth Gwledd Parc Feast â dros 3000 o bobl leol ynghyd yn yr un lle i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol rhyfeddol ein cymuned – ac, fel sy'n wir am bob gwledd, i rannu bwyd a chwmni.
Bu gwaith datblygu ein cynhyrchiad newydd, BAMBOO, yn gwau trwy glytwaith y flwyddyn. Yn 2024 y bydd perfformiad cyntaf y cynhyrchiad awyr-agored newydd hwn, a fydd yn defnyddio dim ond bambŵ a sgiliau rhyfeddol perfformwyr syrcas ac rydym yn edrych mlaen at ei rannu gyda chi.
Dim ond mymryn o flas ar fywyd NoFit State yn 2023 yw hwn. Os hoffech wybod rhagor, cliciwch isod i weld llinell amser Uchafbwyntiau’r flwyddyn – gobeithio y gallwch ymuno â ni eto wrth i ni deithio trwy 2024!
Edrych ar gynllun graffeg Uchafbwyntiau 2023: