reopening_banner_.jpg

croeso ’nôl i'r dosbarth!

Cymuned |

Rydym wedi bod yn brysur â’n prosiect peilot ym mis Hydref, yn dechrau cael pobl yn ôl i’r adeilad ac yn dod i arfer â rhedeg dosbarthiadau mewn ffordd sy’n ddiogel rhag COVID. Rydym yn symud i’r cam nesaf nawr gan ddechrau cynnal gwersi rheolaidd eto ym mis Tachwedd, gyda rhaglen newydd a fydd yn datblygu wrth fynd ymlaen.

 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnig dosbarthiadau oedolion ar y rhan fwyaf o nosweithiau’r wythnos. Rhaffau a Sidanau L3/4 , Trapîs Sefydlog L3/4Dolen Awyr L3/4 a Rhaffau a Sidanau L2 fydd y dosbarthiadau oedolion rheolaidd cyntaf i ddechrau. Fel y gwelwch, dim ond cyfran fach o’r dosbarthiadau oedd gennym cyn y cyfnod clo y gallwn eu rhedeg ond gobeithio y gallwn ychwanegu atynt cyn hir!

 

Mae gennym ddau ddosbarth dydd Sadwrn i blant, Sgiliau Daear 11+ a Sgiliau Daear 9-11. Gobeithio y gallwn gynnal rhagor ac ychwanegu dosbarthiadau i blant iau yn y flwyddyn newydd.

 

Ychydig iawn o lefydd sydd ar gael ar hyn o bryd gan fod camau atal COVID yn golygu llai o ddosbarthiadau, mwy o amser glanhau, dim cymysgu rhwng dosbarthiadau a llai ym mhob dosbarth. Bydd pethau'n wahanol, ond byddwn ar agor eto! Cyn gynted ag y daw’r Cyfnod Atal Byr i ben yng Nghymru ar 9 Tachwedd, cewch ddod yn ôl i’r adeilad, ailgysylltu wyneb yn wyneb â’r gymuned anhygoel hon, ac ymarfer eich sgiliau syrcas gwych gyda ni.

 

Bydd angen i chi fod ar y rhestr aros i gael lle yn y dosbarthiadau newydd am fod cymaint o alw. Os nad yw’ch enw ar y rhestr, cysylltwch â’r dderbynfa ac fe allan nhw ychwanegu’ch enw.

 

Fydden ni ddim wedi llwyddo i ddod trwy’r 7 mis diwethaf heb gefnogaeth ardderchog pawb yng nghymuned ein dosbarthiadau a hoffem fanteisio ar y cyfle i ddiolch unwaith eto am eich help, eich geiriau o gefnogaeth a’ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Gallwn eich sicrhau bod tîm cymunedol NoFit State yn gwneud eu gorau glas i gynnig mwy o ddosbarthiadau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, fel y gallwn groesawu hyd yn oed ragor ohonoch yn ôl i’r adeilad dros y misoedd nesaf.

  

Cewch ddysgu mwy am ein camau i atal COVID a beth y gallwch ei ddisgwyl y tro cyntaf y dewch yn ôl yma.