warm_space.png

Four elms yn cynnig croeso cynnes

Cymuned |

Mae pethau’n anodd ar hyn o bryd gyda chostau byw ac, yn enwedig, gostau gwresogi'r cartref yn codi. Felly, rydym wedi dechrau agor ein hadeilad i roi Croeso Cynnes i’r gymuned leol, bob dydd Mawrth rhwng 10am a 5.30pm.

Cewch fwynhau lle cynnes, croesawus gyda gweithgareddau neu fynd i ystafell dawel – dewiswch chi. Mae yna weithgareddau syrcas, crefftau, bwyd, cawodydd, lle i weithio a lle i gynhesu a chael cefnogaeth. Bydd ein tîm cymunedol gwych o gwmpas drwy'r dydd i helpu os oes gennych gwestiynau neu i sôn am weithgareddau'r diwrnod hwnnw. 

Beth i'w ddisgwyl gan y cynllun Croeso Cynnes ar ddydd Mawrth arferol:
• 3.30–5.30pm – Celf a chrefft i blant gan yr artist lleol Flow Maugran
• 12.30pm – 2.30pm – Gweithgareddau syrcas i blant ac oedolion
• 1pm – 2pm – Darperir cinio


Cyfleusterau:
• Mae gennym ddwy gawod boeth (un ohonynt yn addas i gadeiriau olwyn) a thywelion glân ar gael
• Mae popty microdon a diodydd poeth ar gael i chi unrhyw bryd
• Mae byrddau, cadeiriau, mannau i wefru'ch dyfeisiau electronig a wifi am ddim
• Mae mat llawr meddal mawr yn ein prif ofod, sy'n ei wneud yn fan diogel perffaith i bobl o bob oed fod yn egnïol a rhoi cynnig ar weithgareddau syrcas

Beth mae pobl yn ei ddweud am ein cynllun Croeso Cynnes:
“Mae mor glyd a chynnes”
"Rydyn ni wrth ein bodd yma. Mae'n lle mor ddiogel ar gyfer fy mhlant"
"Fe wnaethon ni fwynhau'r sesiynau o'r blaen gyda Pharti Stryd Clifton, ac felly mae'n braf dod nôl"

does dim angen bwcio. dewch draw unrhyw ddydd mawrth ym misoedd ionawr, chwefror a mawrth rhwng 10am a 5.30pm. 

 

Lle rydyn ni: 

 

Any questions?

Whatsapp: 07500 970567
Phone: 02920 221 330

 

Cwestiynau?
WhatsApp: 07500 970567
Ffôn: 02920 221 330
Ebost: [email protected]