community champions - GPFMaryWycherley-236.jpg

Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr!

Newyddion | Gyrfaoedd | Cymuned |

Mae'n bleser gan NoFit State gyhoeddi cyllid newydd ar gyfer ein rhaglen wirfoddoli o Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru, Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC. Gyda'r cyllid hwn, gallwn gynnig nifer o gyfleoedd cyffrous i wirfoddoli a byddai'n braf pe gallech chi ymuno â ni.

Manteision Gwirfoddoli gyda ni?

  • Bod yn rhan o dîm cyfeillgar, hwyliog.
  • Cyfle gwych i gael profiad ymarferol mewn digwyddiadau ac yn y diwydiant creadigol.
  • Does dim angen profiad blaenorol! Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn ac fe gewch gefnogaeth ein tîm craidd profiadol trwy'r amser.
  • Byddwn yn cydweithio â chi i sicrhau bod eich profiad o wirfoddoli yn addas ar gyfer eich anghenion, eich sgiliau a'ch targedau.
  • Gallwn ad-dalu mân dreuliau rhesymol fel costau teithio.

Beth fyddaf i'n ei wneud?

Mae ein Rhaglen Wirfoddoli yn cynnig gwahanol gyfleoedd a llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan ym mhrosiectau a gweithgareddau NoFit State, yn cynnwys...

  • Rhedeg i ffwrdd gyda'r syrcas ac ymuno â'n sioe deithiol, SABOTAGE
  • Bod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol bywiog yn cyflwyno Gŵyl Parc Fest – Bamboo yng Nghaeau Anderson
  • Helpu mewn gweithdai creadigol fel rhan o Raglen Haf y Filltir Sgwâr
  • Creu man diogel ar gyfer y gymuned leol gan helpu i redeg ein Croeso Cymunedol

Isod, cewch ragor o fanylion am yr holl gyfleoedd i wirfoddoli, yn cynnwys rolau a dyddiadau penodol.

Mae ein Rhaglen Wirfoddoli'n datblygu'n barhaus a byddem yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'ch cyfraniad chi. Os hoffech wirfoddoli mewn ffordd wahanol, rhowch wybod i ni! Byddai'n dda cael sgwrs am hynny.

Rhowch wybod i ni bod gennych ddiddordeb!

Gallwch ebostio: [email protected] neu ffonio 07500 970567

Ymunwch â chymuned gwirfoddolwyr NoFit State a dod yn aelod gwerthfawr o dîm hwyliog a chyfeillgar!

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein Rhaglen Wirfoddoli'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru a weinyddir gan CGGC.

Gŵyl Parc Fest – Bamboo a Rhaglen Haf y Filltir Sgwâr

Mae'r ŵyl a rhaglen yr haf yn cael eu creu gan ac ar gyfer pobl Sblot, Tremorfa ac Adamsdown, Caerdydd, i ddathlu celfyddydau a diwylliant yr ardal. Ar gyfer yr ŵyl, byddwn yn meddiannu Caeau Anderson unwaith eto i gynnal diwrnod rhyfeddol arall o berfformiadau, gosodweithiau, sesiynau creu, a dathlu'r gymuned. Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, dros wyliau’r haf, bydd rhaglen o weithgareddau creadigol i bobl a theuluoedd lleol gymryd rhan ynddi am ddim. Y thema eleni yw cymaint y gallwn ei wneud â Bambŵ wedi'i dyfu yn y Deyrnas Unedig.

Gŵyl Parc Fest - Bamboo

Bydd Gŵyl Parc Fest – Bamboo ar 31 Awst 2024 ar Gaeau Anderson. Bydd gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o'r digwyddiad, gan helpu i sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth a bod pawb yn gadael â gwên ar eu hwyneb ac atgofion anhygoel i'w trysori. Gallech helpu i osod y safle, dangos i bobl ffordd i fynd, cefnogi perfformwyr ac artistiaid, helpu â gweithdai, a hyn a'r llall trwy gydol y dydd.

Rhaglen Haf y Filltir Sgwâr

Cynhelir Rhaglen yr Haf yn y cyfnod Mehefin-Awst a bydd yn cynnwys gwahanol weithdai creadigol. 

Croeso Cymunedol

Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae llawer o bobl yn ein hardal ni yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd. Yn ein barn ni, dydi hyn ddim yn iawn ac felly, gyda chymorth grantiau gan Loteri Genedlaethol Cronfa Gymunedol, National Grid a C3SC, rydym yn cynnig Croeso Cymunedol. Cynllun 'Croeso Cynnes' yn y gaeaf oedd hwn i ddechrau ac mae bellach yn gynllun cymunedol bywiog sy'n cefnogi pobl a theuluoedd lleol â chinio am ddim, gweithdai syrcas a gweithgareddau creadigol eraill.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr gwych i'n helpu â hyn. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn croesawu pobl ac yn eu cefnogi wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, syrcas neu lesiant, ynghyd â thasgau eraill fel helpu i baratoi bwyd a diod.

Mynd ar daith gyda sioe NoFit State, SABOTAGE

Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn teithio gyda'r syrcas i ddod i fyw a gweithio gyda ni am 2-6 wythnos yn ystod taith SABOTAGE yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn mynd i Hwlffordd ym mis Mehefin, Eastleigh ym mis Gorffennaf a Brighton ym mis Awst.

Trwy ymuno â ni fel gwirfoddolwr, byddwch yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr â'r cwmni, y cast a'r criw, yn helpu i redeg ein caffi/bar gyda'r nos, ac yn cael cyfleoedd arbennig i ddatblygu'ch sgiliau creadigol a/neu gynhyrchu. Cewch le i godi pabell/parcio cerbyd gwersylla, un pryd bwyd y dydd a digon o amser rhydd i grwydro'r mannau anhygoel y byddwn ni'n ymweld â nhw eleni!

Os ydi hyn yn swnio'n gyffrous i chi ac yr hoffech wybod mwy, llanwch y ffurflen i fynegi diddordeb a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi'n fuan! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu

'caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru a weinyddir gan CGGC'

Volunteer Callout Gallery

    GPFMaryWycherley-34.jpg GPFMaryWycherley-258.jpg GPFMaryWycherley-253.jpg GPFMaryWycherley-415.jpg

Funded by: