Lexicon_still_going_ahead_-_landscape3.jpg

newyddion pwysig - lexicon yn mynd ymlaen gan gadw pellter cymdeithasol

Newyddion |

Bydd NoFit State yn dal i gynnal y perfformiadau o Lexicon a drefnwyd yn y Big Top yng Ngerddi Sophia tan Ionawr 15 ond bydd llai o bobl yn y gynulleidfa ar gyfer pob perfformiad ar ôl Rhagfyr 26 er mwyn cydymffurfio â rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru.

Felly, bydd angen cadw pellter cymdeithasol ym mhob perfformiad ar ôl Rhagfyr 26 a byddwn yn parhau i gynnal ein holl fesurau gwrth-Covid er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Gwaetha'r modd, gan ein bod yn gorfod lleihau maint y cynulleidfaoedd, byddwn yn cysylltu â rhai o'r bobl ddiwethaf i archebu eu tocynnau i egluro na fyddant bellach yn cael gweld y perfformiad o'u dewis ac i gynnig naill ai docynnau i berfformiad arall neu ad-daliad. Os na wnawn ni gysylltu â chi, mae eich tocynnau'n ddiogel ac fe gewch ymweld â'r Big Top yn y ffordd arferol.

Mae tîm ein Swyddfa Docynnau yn brysur iawn ar hyn o bryd felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni ymdrechu i wneud y newidiadau angenrheidiol. Diolch am eich cydweithrediad.