Bydd NoFit State yn perfformio'u cynhyrchiad newydd rhyfeddol, SABOTAGE, ym mharc y Rec ar Heol y Mwmbwls, Abertawe rhwng 7 ac 16 Ebrill, gan ddod i ben fel rhan o Ŵyl y Pentref Syrcas o 13 i 16 Ebrill.
Bydd Gŵyl 4-diwrnod y Pentref Syrcas yn cyflwyno syrcas gyfoes o bob rhan o Brydain, y cyfan wedi'i ddatblygu yn ystod cyfnodau o archwilio creadigol ac ymarfer yn y Pentref Syrcas yn Abertawe yn ystod y gwanwyn. Bydd y Pentref Syrcas yn dod ag artistiaid syrcas o Gymru, yr Alban a Lloegr benbaladr at ei gilydd mewn rhaglen o gyd-ddatblygu proffesiynol a chyd-ddysgu creadigol dros gyfnod o fis.
Roedd yr adolygwyr a'r cynulleidfaoedd wrth eu bodd â SABOTAGE yn ystod taith 2022. Dim ond mewn un lle yng Nghymru y mae NoFit State yn perfformio cyn cychwyn am Fryste a thir mawr Ewrop am weddill y daith. Dyma'ch unig gyfle i ddal SABOTAGE yng Nghymru eleni.
Mae SABOTAGE yn sioe syrcas fawreddog, eithriadol ac iddi naws dywyllach, fwy garw. Mae SABOTAGE yn mynd i’r afael â’n teithiau personol ni; y brwydrau a’r breintiau sy’n llywio’n bywydau. Mae'n edrych ar y gwahanol lwybrau a deithiwyd i gyrraedd y man lle rydym heddiw, a sut mae'r teithiau gwahanol hynny yn dod â ni at ein gilydd ym mhabell y syrcas, i ddathlu'r hyn sydd gennym yn gyffredin. Mwynhewch wir rym perfformiad byw gyda'r band byw gwych sydd wrth galon y sioe.
Fel rhan o Ŵyl y Pentref Syrcas, bydd The Revel Puck Circus yn perfformio The Wing Scuffle Spectacular ochr yn ochr â SABOTAGE. Dyma gwmni ifanc, deinamig sy'n ymdrechu i weld a gwneud syrcas yn wahanol. Mae The Wing Scuffle Spectacular yn ddathliad o ofn. Mae'n fflyrtio mewn ffordd hwyliog, abswrd â'r hyn na allwn ei osgoi. Mae'n llawenhau yn ein gallu i herio ofn, a'n gallu i wneud sbort am ei ben. Mae'r sioe'n addas i bob oedran ac yn boblogaidd iawn gyda phobl ifanc.
Caiff rhagor o fanylion a rhaglen lawn Gŵyl y Pentref Syrcas eu cyhoeddi'n fuan. Bydd yn cynnwys digwyddiadau â thocynnau a rhai am ddim, perfformiadau yn y Big Top a rhai awyr-agored, cabaret a diwrnod o hwyl i’r teulu. Tan hynny, gofalwch fanteisio ar ein cynigion arbennig sy'n eich helpu i weld mwy o syrcas am lai o arian. Sylwch: Dim ond un cynnig y gallwch ei ddefnyddio ar y tro.
Prynwch eich tocynnau ar gyfer SABOTAGE a The Wing Scuffle Spectacular nawr ac fe gewch 20% oddi ar bob tocyn â chod arbennig EARLYBIRD: “EarlyBird”. Daw'r cynnig i ben ddydd Sul 12 Mawrth.
Neu, pan brynwch docynnau ar gyfer SABOTAGE gan NoFit State Circus, gallwch gael eich tocynnau ar gyfer The Wing Scuffle Spectacular gan The Revel Puck am HANNER PRIS! Y cynnig yn ddilys trwy gydol y cyfnod.
Cefnogir Gŵyl y Pentref Syrcas gan Lywodraeth Cymru.
Swyddfa Docynnau
02921 321 021 / www.nofitstate.org/cy/shows/sabotage/
Perfformiadau Gwener 7 – Sul 16 Ebrill 2023
Perfformiadau Prynhawn a Gyda'r Nos ar gael
Perfformiad Hamddenol Dydd Mercher 12 Ebrill 3pm
Cewch weld y manylion llawn ar dudalennau'r sioeau: SABOTAGE a The Wing Scuffle Spectacular.
Cyfeiriad y Perfformiadau:
Safle Gŵyl y Pentref Syrcas, Maes Chwarae y Rec, Heol y Mwmbwls, Abertawe, SA2 0AU
SABOTAGE gan NoFit State Circus
Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
Crëwyd gan NoFit State Circus.
Cyfarwyddwr Firenza Guidi.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England a Sefydliad Garfield Weston.
The Wing Scuffle Spectacular gan The Revel Puck Circus
Cefnogir gan Arts Council England.
Cefnogwyr y Pentref Syrcas a'r Ŵyl Syrcas
Gyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, Creative Scotland a Llywodraeth Cymru.
Grŵp llywio'r Pentref Syrcas yng Nghymru
Articulture, Citrus Arts, NoFit State Circus, Syrcas Cimera, Syrcas Byd Bychan, Upside Down Circus