community_feast.jpeg

ymunwch â ni am wledd gymunedol!

Cymuned |

Ymunwch â ni am Wledd Gymunedol!

Dydd Sadwrn 30 Hydref
11.30am – 1.30pm

Mae pethau ar fin newid yn ein rhaglen gymunedol. Dewch i’n Gwledd Gymunedol i gael gwybod mwy, i ddweud eich dweud ac i gael dod yn rhan o’r gwaith.

Dros yr 19 mis diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried y gwaith rydym yn ein wneud ac wedi penderfynu ei bod yn rhaid i ni addasu ein ffyrdd o weithio. Rydym yn newid pwyslais y gwaith a wnawn. Rydym am unioni’r cydbwysedd a gweithio gyda’n cymuned leol a chymunedau ehangach gan ystyried sut y gallwn gydweithio i wneud syrcas yn fwy hygyrch, yn fwy cyfartal ac yn fwy grymus.

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 30 Hydref yn Four Elms i gael gwybod mwy ac i fwynhau dewis blasus o wraps, dips a salads gan brosiect cegin Oasis, mudiad lleol sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddod yn rhan o’u cymuned leol.

Bydd yr holl fwyd yn addas i lysieuwyr. Rhowch wybod i ni wrth gadw lle os oes gennych ofynion deietegol eraill.

Atebwch i  [email protected] erbyn dydd Mercher 27 Hydref.

Cewch ddarllen mwy am gynllun newydd Canolbwyntio ar Gymunedau ym.