Prosiect newydd ar y cyd rhwng Imagineer, Orit Azaz a NoFit State Circus yw BAMBOO (teitl dros dro).
Mae’r prosiect yn datblygu cynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd ysblennydd, trawiadol, sgilgar sy’n defnyddio dim ond cyrff pobl a bambŵ wedi’i dyfu yn y DU – gan ddangos harddwch a breuder ein bywydau rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol ar y blaned hon. O ddim ond pentwr o ffyn i dirwedd gerfluniol amhenodol sy’n esblygu’n barhaus trwy symudiadau cyrff perfformwyr syrcas eithriadol, bydd y sioe syml hon dipyn o sbloet ac yn arbennig o effeithiol. Bydd yn hawdd mynd â hi ar daith.
Gobeithio y bydd y prosiect ar gael i fynd ar daith yn haf 2024. Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â Dann.
Bu gwaith Ymchwil a Datblygu Syrcas Bambŵ yn rhan o ymholiad creadigol #ImagineBamboo Is Everywhere 2023.
Cyd-gyfarwyddwyr Artistig Tom Rack (NoFit State Circus) ac Orit Azaz
Cyfarwyddwr Syrcas Mish Weaver
Peiriannydd a Rigiwr Syrcas Tarn Aitken
Cynhyrchydd Dann Carroll
Ymchwil a Datblygu Cyfansoddi Cerddoriaeth Peter Reynolds
Ymchwil a Datblygu Gwisgoedd Emily Redsell
Artistiaid fu'n ymwneud ag Ymchwil a Datblygu eleni
Gemma Creasey, Andy Davies, Felix Fogg, Tiago Fonseca, Manu Melani, Luca Morrocchi, Sarah Jeneway, Sean Kempton, Phoebe Knight, Sam Lebon, Gracie Marshall, Guillem Marti, Nicoló Marzoli, Kevin McIntosh, Aurora Morano, Laura Moy, Lucie N’Duhirahe, Michaela O’Connor, Riccardo Saggese, Rosa-Marie Schmid
Gyda diolch i
101 Outdoor Arts, Breda Louise Glavin, James Doyle-Roberts & Citrus Arts, MAKE North Docks, Pink Kiwi Catering, Joy Dove Wilkinson, Aerial Mel, a Pete Gunson