block a chymdeithas tai unedig cymruhaf 2016
Bu NoFit State Circus yn cydweithio â Chymdeithas Tai Unedig Cymru o Gaerffili i gyflwyno perfformiadau a gweithdai arbennig ym Mryn Aber, Lansbury Park, Aberbargoed a Thredegar yn ystod haf 2016.
Yn ystod pum wythnos gwyliau’r haf, bu NoFit State yn cynnig gweithdai wythnosol mewn acrobateg a parkour i bobl yr ardal. Cawsant weld sut i berfformio sgiliau o’r sioe awyr agored newydd, BLOCK, a ddatblygwyd ar y cyd gan NoFit State Circus a Motionhouse Dance.
Roedd y gweithdai’n arwain at berfformiadau o BLOCK mewn cymunedau lleol fel rhan o daith y sioe o gwmpas Prydain.Cafodd pobl yr ardal gyfle i weld y sgiliau yr oedden nhw wedi’u dysgu yn cael eu perfformio yn y sioe, ac fe gafodd rhai o’r plant gyfle i ddangos eu sgiliau yn y perfformiadau.
Cafodd y prosiect hwn oedd yn bartneriaeth rhwng NoFit State a Chymdeithas Tai Unedig Cymru wobr y Celfyddydau, Busnes a’r Gymuned gan Celfyddydau a Busnes Cymru.Roedd yn enghraifft wych o’r manteision pendant a all ddod i gymuned trwy bartneriaeth rhwng y celfyddydau a busnes.
Ni fuasai modd cynnal y prosiect heb gefnogaeth Cymdeithas Tai Unedig Cymru a chronfa CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru.