Yn 2018, aeth yr Herefordshire Family Festival ati i ddathlu 250 mlwyddiant y syrcas, felly bu The Courtyard, Henffordd yn cydweithio â NoFit State a’n Syrcas Ieuenctid i greu darn newydd, wedi’i gomisiynu’n arbennig, i’w berfformio yn eu prif neuadd!
Archwilio’r gorffennol, dathlu’r presennol, llunio’r dyfodol.
Daeth NoFit State â’u doniau ifanc mwyaf addawol ynghyd i berfformio darn newydd, a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer yr Herefordshire Family Festival. Ysbrydolwyd y sioe gan lawer o waith ymchwil i dreftadaeth y syrcas. Cafodd cynulleidfaoedd eu syfrdanu gan awyrgampau, acrobateg, jyglo a llawer mwy yn y perfformiad mwyaf uchelgeisiol hyd yma gan ein Syrcas Ieuenctid! Roedd yn adeiladu ar lwyddiant cynhyrchiad blaenorol y criw ifanc, Syrcas: 250 Oed a’n Dal yn Ifanc.
Cadwch lygad yn agored am ragor o ddatblygiadau a pherfformiadau o Circus Mundi yn y flwyddyn newydd ac mae clipiau ffilm o’r sioe ar y ffordd!
Ffotograffau gan Mark Robson.
cast a chriw circus mundi
Perfformwyr y Syrcas Ieuenctid
Liwanu Dodangoda Arachchi
Adela Howells-Pearce
Katie Jenkins
Filip Musialek
Julia Musialek
Morgan Palmer
Molly Richmond
Sam Richmond
Kaiya Thomas
Phoebe Webb
Ed Young
Lee Keenor (fel rhan o brosiect Pontio: Artistiaid Ifanc)
Ollii Park (fel rhan o brosiect Pontio: Artistiaid Ifanc)
Y Tîm Creadigol a’r Criw
Arweinydd Creadigol a Chynhyrchydd: Olga Kaleta
Cyfarwyddwyr: Francis Maxey ac Olga Kaleta
Dylunio a Chynhyrchu Clyweledol: Tamsie Thomas a Chris Thomas
Gwisgoedd: Rhi Mathews
Cyfarwyddwr Ymarferion/Rheolwr Llwyfan: Hannah O’Leary
Tiwtoriaid Gwadd: Bethan Dix, Esther Vivienne Fuge, Hannah O’Leary, Nat Whittingham
Rigiwr/Cymorth Cynhyrchu: Lee Tinnion
Goruchwylydd Gwisgoedd: Maisie Wolstenholme
Cynorthwyydd tiwtoriaid: Molly Turner