Neidio i'r prif gynnwys
Circus Village and Festival - tinified.jpg

Y Pentref Syrcas a'r Ŵyl, Abertawe

Cynhaliwyd y Pentref Syrcas yn Abertawe yn 2023 a daeth i ben â gŵyl syrcas bedwar diwrnod.

y Pentref Syrcas 2023

Crëwyd y Pentref Syrcas gan fod partneriaeth o gwmnïau syrcas ac artistiaid unigol yn awyddus i fynd i'r afael, mewn ffordd fechan, â'r diffyg cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau datblygiad proffesiynol gwirioneddol hygyrch i artistiaid syrcas yn y Deyrnas Unedig. 

Bu'r pentref yn ofod creadigol; yn lle i fyw, dysgu a gweithio ynddo.  Lle i artistiaid syrcas archwilio’r hyn a wnawn, beth y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, arbrofi â ffyrdd newydd o wneud pethau – a hynny wrth ddathlu pob agwedd ar syrcas, y gelfyddyd yr ydym yn ei rhannu.

Roedd pedair pabell syrcas a rhaglen o weithgareddau amrywiol ar safle'r pentref yn 2023 gan ddilyn traddodiad y Big Top teithiol yr ydym mor hoff ohono.  Roeddem yn arbennig o awyddus i gynnig cyfleoedd i artistiaid canol-gyrfa oedd ag uchelgais i ddatblygu eu gwaith, ac i artistiaid o'r tu allan i’r brif ffrwd.

Roedd tri phrif faes i raglen Pentref Syrcas 2023 sef Ieuenctid a Chymuned, Datblygiad Proffesiynol, a Phreswyliadau. Daeth i ben gyda GŴYL y Pentref Syrcas, gŵyl gyhoeddus 4 diwrnod i arddangos talentau'r preswyliadau a phobl y Pentref. Roedd yn cynnwys perfformiadau yn y Big Top, cabaret syrcas, Diwrnod y Sector Syrcas a Diwrnod o Hwyl am Ddim i'r Teulu.
Roedd safle'r Pentref yn hygyrch a chynhwysol.   Roedd yn rhad ac am ddim, a chynigiwyd costau teithio a chynhaliaeth.  Roedd costau gofal plant a bwrsarïau ariannol ar gael os oedd angen hefyd.

Fideo o'r Pentref Syrcas a'r Ŵyl

Oriel y Pentref

Ffotograffau gan Mark J Robson a Mary Wycherley.

    PHOTO-2023-05-04-12-09-48 19.jpg PHOTO-2023-05-04-12-09-48 9.jpg PHOTO-2023-05-04-12-09-48 6.jpg cv-390.jpg cv-384.jpg cv-372.jpg cv-153.jpg cv-148.jpg cv-145.jpg cv-135.jpg cv-133.jpg cv-130.jpg cv-99.jpg cv-93.jpg cv-33.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_2837-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_2749-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_2744-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0614-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0547-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0397-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0290-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0272-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0221-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0068-web.jpg 2023_04_MJR_cv-sun1_0010-web.jpg 2023_03_MJR_cv-sun12_1133-web.jpg 2023_03_MJR_cv-sun12_1108-web.jpg 2023_03_MJR_cv-sun12_0405-web.jpg 2023_03_MJR_cv-sun12_0147-web.jpg 2023_03_MJR_cv-sun12_0013-web.jpg
Welsh Youth & Community Focus - cv-93.jpg

Cam 1: Ieuenctid a Chymuned yng Nghymru

Gan mai Cymru oedd yn croesawu’r Pentref, roedd y ffocws cychwynnol yn benodol ar bobl ifanc a chyfranogwyr cymunedol yn y gymuned Syrcas yng Nghymru ac ar ddiwallu eu hanghenion a datblygu eu sgiliau.  Roedd hyn yn cynnwys cyfnod o dri diwrnod ar gyfer pobl ifanc a sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc, ac yna ail gyfnod o dri diwrnod ar gyfer athrawon, cyfranogwyr cymunedol ac artistiaid amatur oedd am ddatblygu sgiliau technegol, addysgu a pherfformio.

Roedd cyfleoedd gwerthfawr trwy gydol y ddau gyfnod i bawb ddysgu, datblygu, cydweithio a thyfu.  Cafodd elfennau o’r rhaglen eu cyflwyno'n ddwyieithog, ac roedd cyfle i greu gwaith yn yr iaith Gymraeg.

cv-153.jpg

Cam 2: Herio'ch Ymarfer Creadigol a'ch Datblygiad Proffesiynol

Hwn oedd llinyn mwyaf y rhaglen, yn para dros 6 wythnos ac yn gyfle i fywiogi ac ymgysylltu â’n hochr artistig.  Buom yn gweithio mewn grwpiau bach ar breswyliadau dwys tri neu chwe diwrnod gyda gwahanol gyfarwyddwyr ac ymarferwyr, ac yn cydweithio â gweithwyr syrcas proffesiynol i ysbrydoli syniadau ynddyn nhw eu hunain ac ymhlith ein gilydd.

Gyda provocateurs a hwyluswyr o bob math o wahanol gefndiroedd ac â gwahanol setiau sgiliau, buom yn canolbwyntio ar amrywiaeth ein galluoedd perfformio a thechnegol. 

Ymhlith y llinynnau roedd: Coreograffi Syrcas, Preswyliad gyda Chyfarwyddwr, Rigio Creadigol ac Elfennau Technegol, Ymchwil a Datblygu Syrcas Arbofol, Llwyfannu a Pherfformio, Datblygu'ch Syniad Chi, Gweithio yn yr Awyr Agored, a Phrotest Perfformio.

Roedd digon o amser bob dydd y tu allan i'r sesiynau a drefnwyd i ymarfer gyda'i gilydd a rhoi cynnig ar wahanol bethau.

2023_04_MJR_cv-sun1_0547-web.jpg

Cam 3: Preswyliadau

Elfen newydd ym Mhentref 2023 oedd y Preswyliadau Creadigol gyda chymorth ariannol.  Llwyddwyd i gefnogi preswyliadau creadigol ar gyfer artistiaid a chwmnïau o Gymru, yr Alban a Lloegr (cafodd 62 o artistiaid fudd o'r cynllun).  Cafodd llawer o'u cynyrchiadau eu cynnwys fel perfformiadau a gwaith ar y gweill yng NGŴYL y Pentref Syrcas ar ddiwedd y cyfnod.

Ymhlith y Preswyliadau Creadigol roedd: NoFit State Circus, The Revel Puck Circus, Circus Purposeless, Kitsch & Sync, Poppy Plowman, Leyton Williams, Claire Crook, a Circus Zambia.

Festival banner logo.jpg

GŴYL y Pentref Syrcas

Gŵyl syrcas 4-diwrnod a gyflwynwyd gan NoFit State Circus a'u cyfeillion ym Mharc y Rec, Abertawe rhwng 13 ac 16 Ebrill 2023 oedd GŴYL y Pentref Syrcas. Cynhaliwyd hi ar ddiwedd rhaglen y Pentref Syrcas yn Abertawe,

Daeth ag artistiaid syrcas gyfoes o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd a chyflwynodd berfformiadau a ddatblygwyd ar safle'r Pentref Syrcas yn y cyfnod cyn yr ŵyl.

SABOTAGE, cynhyrchiad NoFit State yn y Big Top oedd sioe fawr yr ŵyl, ochr yn ochr â The Wing Scuffle Spectacular gan The Revel Puck Circus.  Ymhlith y dangosiadau gwaith ar y gweill o'r Pentref roedd The Big Erection gan Circus Purposeless, Bitchcraft gan Kitsch & Sync, Turk(ish) gan Poppy Plowman, a Smile gan Leyton Williams. 

Cynhaliwyd Noson Cabaret Syrcas Pobl y Pentref gyda pherfformiadau arbennig gan gyfranogwyr ac artistiaid y Pentref Syrcas, a ddatblygwyd yn y cyfnod cyn yr ŵyl.  

Yn ogystal, bu Diwrnod Hwyl i’r Teulu, am ddim, gyda pherfformiadau crwydrol, gweithgareddau syrcas am ddim i bob oed a llawer mwy ochr yn ochr â pherfformiadau yn y Big Top ac yn yr awyr agored. Roedd yn cynnwys digwyddiadau am ddim, talwch fel y teimlwch, a digwyddiadau â thocynnau.

Oriel yr Ŵyl

Ffotograffau gan Mark J Robson a Mary Wycherley. Ffotograffau The Wing Scuffle Spectacular gan TeklaSzőcs

    NFS-419.jpg NFS-123.jpg NFS-325.jpg The-Wing-Scuffle-Spectacular-cTekla-Szőcs-3.jpg NFS-1162.jpg NFS-834.jpg NFS-1113.jpg NFS-1087.jpg NFS-267.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_3618-web.jpg The-Wing-Scuffle-Spectacular-cTekla-Szőcs-6.jpg NFS-97.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_3707-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_3690-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_3032-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_2947-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_2462-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-thurs_2830-web.jpg NFS-100.jpg 2023_04_MJR_cvf-fri_1357-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-fri_1296-web.jpg 2023_04_MJR_cvf-fri_1065-web.jpg

diwrnod sector y syrcas

circus sector day 2.png

Dydd Iau 13 Ebrill | 11am - 1.30pm

Y Pentref Syrcas oedd y rhaglen fwyaf ym maes datblygu'r sector ar gyfer artistiaid syrcas yn y DU.  Ddydd Iau 13 Ebrill, croesawyd cynhyrchwyr, hyrwyddwyr, a chynrychiolwyr gwyliau a lleoliadau o’r DU a'r tu hwnt i ymuno â ni. Y nod oedd eu grymuso, a rhoi'r hyder a'r dewrder iddynt i raglennu pob math o syrcas y DU ym mhobman, yn cynnwys Big Tops.  Roedd y sgyrsiau’n cynnwys:  "Sut i ddod â’r Big Top atoch chi”, “Rhaglennu syrcas mewn gwahanol leoliadau”, a “Syrcas ym Mhobman”, gyda ffocws ar berfformiadau awyr agored. Ymhlith y siaradwyr roedd Billy Alwen o Cirque Bijou, Jade Dunbar rhaglennydd big-top Glastonbury, ac Andrew Loretto o'r Winchester Hat Fair.

Yn ogystal, cefnogwyd artistiaid â chyfres o sesiynau gan gwmnïau datblygu fel Circus Change Up, Circus Works a Circus Futures.  Dyma’r cynulliad mwyaf o artistiaid, cwmnïau a hyrwyddwyr syrcas yn y DU, ac mae’n gyfle i ni roi hwb i'n celfyddyd a’i hyrwyddo gartref a thramor.  

Roedd dau linyn i Ddiwrnod Sector y Syrcas, un ar gyfer Cynhyrchwyr, Hyrwyddwyr, Lleoliadau, Gwyliau ac Archebwyr, a'r ail ar gyfer Artistiaid a Gweithwyr Proffesiynol y Sector.

Safle GŴYL y Pentref Syrcas:

Parc y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU, Cymru

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×