y cefndir
y rheswm dros greu'r pentref syrcas yng nghymru
Gyda’r byd fel yr oedd ar ôl y pandemig, a ninnau'n methu gwneud ein gwaith arferol, fe feddylion ni y byddai’n syniad da dod â’r sector syrcas at ei gilydd yma yng Nghymru a chreu Pentref Syrcas. Roedd arnom eisiau estyn allan, gwrando, gwylio a dysgu oddi wrth ein gilydd, cysylltu â’n ffrindiau syrcas, a dechrau sgwrsio ag eraill dros y byd oedd eisiau gwneud yr un peth. Roedd ein pentref yn lle cefnogol lle gallai pobl gymryd risgs a chreu syniadau cyffrous i’w lansio i’r byd ehangach.
Roedd gan bawb ran greadigol a chymdeithasol i’w chwarae yma – gyda’r bwriad o ddatblygu sector y syrcas yng Nghymru, gan sicrhau ei safon, ei barhad a’i hygyrchedd. Mae hyn oll yn bwysig i ddyfodol ein celfyddyd – dyfodol oedd yn dibynnu ar bawb ohonom. Roedd yn bentref gweithiol, a phob un ohonom yn rhannu cyfrifoldeb dros ein lles, ein celfyddyd, a'r syniadau a rannwyd gan ddod â ffyrdd newydd, effeithiol o weithio, gartref a thramor.
Trefnwyd y bythefnos gyntaf yn arbennig ar gyfer sector syrcas Cymru, a’r pedair wythnos arall i ddod ag ymarferwyr syrcas o Gymru, Lloegr a'r Alban ynghyd, diolch i nawdd gan Arts Council England a Creative Scotland yn dilyn cyllid cychwynnol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau bod modd cynnal y pentref.
cymryd rhan
ar gyfer pwy oedd y pentref syrcas?
Roedd croeso cynnes i bobl o bob cefndir a diwylliant ac â galluoedd amrywiol yn y pentref. Roedd y pentref ar agor i bobl o Gymru, Lloegr a’r Alban – gwneuthurwyr syrcas a thraws-gelfyddydol, artistiaid, technegwyr, hyfforddeion; a chydweithredwyr creadigol chwilfrydig y dyfodol. O awyrgampwyr profiadol i jyglwyr canolradd, o dechnegwyr medrus i gyw gynhyrchwyr – a phopeth yn y canol. Aeth pawb oddi yma wedi darganfod rhywbeth newydd ac, efallai hyd yn oed yn fwy cyffrous, wedi dod â rhywbeth i'w gyflwyno i'r lleill.
y rhaglen
wedi'i rhannu'n 6 maes allweddol