cymryd rôl ym mryn aber: haf 2017
Yn ystod gwyliau'r haf 2017, gweithiodd NoFit State Circus â United Welsh Housing i gynnig Cymryd Rôl, cyfres o weithdai syrcas wythnosol, yn ogystal â sesiynau celf ac amgylcheddol yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Caerffili, Bryn Aber.
Cynhaliwyd gweithdai mynediad agored yng nghanol y gymuned, gaa rhoddodd cyfle i blant a'u teuluoedd i gmryd rhan mewn nifer o gweithgareddau a sgiliau syrcas cyffrous. Fe'u hyfforddwyd gan diwtoriaid proffesiynol NoFit State ac yn gyflym iawn, fe adeiladwyd eu hyder wrth iddynt meistroli sgiliau newydd. Gwnaethant chwarae a dysgu wrth iddynt gydweithio, ac fe dyfodd ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch ochr yn ochr â ffrindiau newydd.
Datblygwyd y sesiynau celf ac amgylcheddol â’r gymuned lleol, gan sicrhau bod y sesiynau yn ddefnyddiol iawn, yn ogystal â fod yn hwyl ac yn ddiddorol iddynt. Trefnwyd prosiectau celf ailgylchu i droi sbwriel yn drysor, a trwy gweithgareddau garddio cymunedol, plannwyd bylbiau a hadau mewn ardaloedd oedd heb eu defnyddio yn gynt. Un o lwyddiannau arbennig y prosiect oedd datblygiad murlun trefol mawr, a chafodd ei lunio a'i baentio â frwdfrydedd mawr gan y drigolion lleol. Fe gyfeiliwyd hyn â phaneli croes-bwyth wedi’i ailgylchu a chafodd eu cwblhau gan y drigolion, ac nawr mae’r ardal parcio lleol wedi cwbl trawsnewid.
Daeth y prosiect i’w ben â pharti stryd bywiog â'r holl gymuned ynghyd unwaith eto i ddathlu y llwyddiant ysgubol. Roedd y ffair yn cynnwys bwyd a chafodd ei greu gan y trigolion, perfformiadau syrcas, gweithdai, gweithgareddau celf, a theithiau o amgylch y gweithiau garddio a’r murlun. Nododd ddiwedd haf lwyddiannus ym Mryn Aber ac roedd hefyd yn cynrychioli cychwyniad cyfathrebiad ac ymgysylltiad o fewn y gymuned lleol. Roedd yn dathlu’r cyffro y gall syrcas ei greu, a'i allu i gael ei ddefnyddio gydag amrywiaeth o weithdai i roi llais i'r gymuned a'r hyder i greu y newidiadau positif maent am eu gweld mwyaf.
Roedd Cymryd Rôl yn bartneriaeth gyda United Welsh na fyddai wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Gwobrau'r Loteri Fawr i Bawb a Chronfa CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru