gair am y llwybr lluniau
Am gyfnod ym mis Chwefror 2023, arddangoswyd rhai o ffotograffau hardd Gŵyl Stryd Clifton a gynhaliwyd yr haf cynt. Roeddent yn rhan o lwybr lluniau o gwmpas yr ardal, yn cynnwys 26 o ffotograffau ar gyffordd Stryd Clifton a Tin Street, ffotograffau yn ffenestri busnesau lleol, ac arddangosfa dan do â 70 o luniau yn Hyb STAR, Tremorfa.
Cafodd Gŵyl Stryd Clifton ei chyd-greu gan y gymuned leol, artistiaid, cerddorion a NoFit State. Roedd y llwybr lluniau'n gyfle i hel atgofion, i ystyried potensial yr ardal i ffynnu ac i ddathlu'r gymuned amrywiol sy'n byw ac yn gweithio ar y stryd. Dyma daith i ddod i nabod Stryd Clifton a'i chymuned ryfeddol a chreadigol.
Diolch o waelod calon i'n ffotograffwyr, Mark J Robson a Mary Wycherley, a lwyddodd i ddal ysbryd Gŵyl Stryd Clifton a'n helpu ni i ail-greu'r atgofion hyn.
#CliftonStreetFestival #GŵylStrydClifton