Bydd y perfformiad yn consurio lle, gorffennol, sain, pleser, delwedd:hanesion anghyfarwydd, atgofion a breuddwydion dileferydd.Caleidesgôp o liwiau a symudiadau, pair o theatr, ffilm, syrcas a cherddoriaeth fyw i godi’ch calon i’r entrychion.
Wedi’i lunio a’i greu gan Firenza Guidi (Cyfarwyddwr Artistig, BIANCO), dyma ddigwyddiad cymunedol theatrig i ddathlu agor Pontio mewn partneriaeth â phrosiect BLAS Pontio, Canolfan Addysg y Bont, Ysgol Friars, Ysgol Bro Ddewi, Ysgol Hirael ac Ysgol Glancegin ynghyd ag Ed Wright o Electroacwsteg Cymru. Diolch i’r holl feirdd a fu’n cydweithio’n agos â Pontio i wireddu cynllun HaDAsyniaDA a chynnig yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Mae yna Le’: Tudur Dylan, Karen Owen, Gerwyn Wiliams, Ed Holden, Sian Northey, Eurig Salisbury, Llion Jones a Dewi Pws.
Gyda chefnogaeth Grŵp Watkin Jones