Crëwyd NoKit State gan ein tîm addysgu anhygoel ym mis Ebrill 2020 mewn ymateb i Covid-19. Gan fod ein man hyfforddi yng Nghaerdydd wedi cau oherwydd y cyfyngiadau symud, dechreuodd ein hathrawon syrcas drefnu eu hunain a gwirfoddoli i roi dosbarthiadau ar-lein am ddim i’r gymuned oedd yn dod i'n dosbarthiadau ac eraill.
Bathwyd yr enw NoKit State gan fod modd dilyn y dosbarthiadau hyn gartref, heb offer syrcas arbenigol. Bu bron i 1800 o oedolion a phlant yn cymryd rhan yn nosbarthiadau digidol, di-dâl, NoKit State o fis Mawrth i fis Tachwedd 2020 a chafodd dros £2600 ei roi i’r athrawon gan y bobl hael a ddaeth i'r dosbarthiadau digidol trwy eu hymgyrch GoFund Me.