Roedd y prosiect yn deillio o sgyrsiau â nifer o gwmnïau syrcas a mannau hyfforddi yng Nghymru ac yn arwydd o ymrwymiad newydd i sicrhau arferion gorau ym maes Iechyd a Diogelwch yn yr holl ddarpariaeth syrcas yng Nghymru.
Mae byd syrcas yn beryglus yn ei hanfod. Mae gweithio ar uchder, dibynnu ar ein hoffer a gwthio'n cyrff i'r eithaf i gyd yn rhan o'r hyn sy'n gwneud syrcas yn wych ond, ar yr un pryd, gall ei wneud yn beryglus. Drwy redeg y prosiect hwn, rydym ni a chwmnïau eraill wedi cymryd cam arall i sicrhau bod pob un, boed yn aelodau o’r gymuned neu’n weithwyr proffesiynol profiadol, yn dal i allu ymwneud yn gwbl hyderus â’r gelfyddyd sydd mor agos at ein calonnau.
Gan ddechrau â chyfnod o drafod a gweithdai, bu'r sefydliadau partner yn cymryd rhan mewn trafodaethau a dosbarthiadau meistr gyda rigwyr proffesiynol er mwyn gosod sylfaen o wybodaeth y gallai pob cwmni gyfeirio ati. Gyda'r wybodaeth hon, drafftiwyd 'Syrcas Saff: Dogfen gyfeirio ar gyfer Iechyd a Diogelwch yn Sector y Syrcas yng Nghymru', sef crynodeb o'r ystyriaethau a'r deddfwriaethau allweddol sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch syrcasau yn y DU.
O ddiogelwch rhag Covid i ddiogelwch tân, ac o offer trydanol i wrthbwysoli, mae'r ddogfen hon yn fan cychwyn gwych ar gyfer pob agwedd ar Iechyd a Diogelwch a'r syrcas.
Gallwch weld yr adroddiad neu ei lawrlwytho am ddim isod.
Er bod rhaid nodi nad yw'r ddogfen hon yn disodli deddfwriaeth a chyngor swyddogol y llywodraeth o gwbl, rydym wedi ceisio creu dolenni i ddogfennau a gwefannau swyddogol a chyfeirio atynt lle bynnag y bo modd. Cofiwch fod y rheolau a'r canllawiau swyddogol yn newid dros amser ac felly dylech geisio cyngor swyddogol wrth ddefnyddio'r adnodd hwn os oes angen.