Menter dan arweiniad NoFit State Circus a Crying Out Loud yw Spotlight UK Circus. Caiff ei hariannu gan yr Arts Council England International Showcasing Fund.
Daw’r fenter ar gyfnod pwysig iawn yn natblygiad syrcas gyfoes Prydain. Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae syrcas gyfoes wedi dod yn rhan hanfodol o’n bywyd diwylliannol ac, yn y degawd diwethaf, bu cynnydd mawr yn swm ac yn ansawdd y gwaith a gynhyrchir ym Mhrydain. Erbyn hyn, mae nifer o gwmnïau yn barod i gymryd y cam nesaf, a dechrau teithio'n rhyngwladol.
Trwy Spotlight UK Circus, caiff hyd at 10 o artistiaid syrcas gorau'r Deyrnas Unedig gyfle i gyflwyno’u gwaith mewn tair gŵyl ryngwladol allweddol: CIRCa festival du cirque actuel 20 – 29 Hydref 2017; Ffair Syrcas Subcase Subtopia 14 – 17 Tachwedd 2017 a Festival OFF d’Avignon Gorffennaf 2018.
Nod hyn yw codi ymwybyddiaeth o waith syrcas gyfoes Prydain yn rhyngwladol, cynyddu gallu cwmnïau o Brydain i hyrwyddo'u hunain a theithio'r byd, a datblygu a chynnal rhwydwaith newydd o gwmnïau syrcas gyfoes teithiol.
Bydd cyfle i gynulleidfaoedd weld creadigaethau cyffrous o Brydain, ac fe gaiff nifer o artistiaid ddod i gysylltiad â phartneriaid rhyngwladol posibl, ac elwa ar waith mentora a chefnogi pwrpasol gan naill ai NoFit State Circus neu Crying Out Loud. Trwy gyflwyno gwaith mewn cyd-destun newydd byddwn yn rhoi cyfle i artistiaid herio’u harferion eu hunain gan wella’r cynnwys artistig a’r gwaith datblygu.