Mae prosiect Syrcas Amrywiol yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sydd ar y sbectrwm awtistig i fwynhau dosbarthiadau syrcas mewn awyrgylch cefnogol, anffurfiol a chyfeillgar gyda chymorth ar gyfer eu hanghenion nhw.
Mae gan syrcas gymaint i’w gynnig – o bleser pur dysgu sgiliau newydd, i gwrdd â ffrindiau newydd, i feithrin sgiliau cymdeithasol a gwella “llythrennedd corfforol”. Felly, cafodd plant a phobl ifanc o bob cefndir eu denu at syrcas erioed. Am hynny, rydym bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod egwyddorion gwaith cynhwysol yn rhan hanfodol o bopeth a wnawn.
Fel rhan o brosiect Syrcas Amrywiol, rydym yn lansio dosbarthiadau syrcas wythnosol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ar y sbectrwm awtistig. Byddwn yn cynllunio’r sesiynau mewn ymateb i’w hanghenion unigol nhw er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau posibl a’u bod yn gallu mwynhau holl bleserau syrcas.
Rydym wedi trefnu bod gennym fwy nag arfer o athrawon i bob plentyn ac wedi paratoi pecynnau cynefino i gyflwyno'r lle a'r athrawon i’r disgyblion cyn yr ymweliad cyntaf. Byddwn hefyd yn cydweithio â'r teuluoedd i ofalu ein bod yn diwallu anghenion pob disgybl fel y gallwn greu amgylchedd sy'n cynnig cyfleoedd dysgu sydd hyd yn oed yn well ac yn fwy cynaliadwy.
Bydd y dosbarthiadau rheolaidd yn dechrau ar ddyddiau Sul ym mis Tachwedd 2020 gan gynnig amrywiaeth o sgiliau cyffrous y syrcas i blant, yn cynnwys jyglo, balansio, awyrgampau ac acrobateg, a’r cyfan mewn awyrgylch anffurfiol, croesawgar. Bydd croeso i rieni, gwarcheidwaid neu weithwyr cymorth ymuno yn y sesiynau os hoffai'r person ifanc gael cefnogaeth ychwanegol.
Credwn ei bod yn bwysig integreiddio a derbyn pobl eraill yn ein holl waith ac, yn ogystal â sesiynau Syrcas Amrywiol, rydym yn cynnig cymorth i blant a hoffai ymuno â'n dosbarthiadau rheolaidd. Mae holl ddosbarthiadau Syrcas Amrywiol am ddim diolch i gymorth hael Sefydliad Hodge a Sefydliad Rayne ac mae bwrsariaethau ar gael i helpu disgyblion i drosglwyddo i’r prif ddosbarthiadau lle bo hynny’n briodol.