Tri pherfformiwr o Nepal yn gofyn cwestiynau am fywyd, cariad, tlodi a thrachwant. Maent yn defnyddio geiriau, symudiadau, syrcas a seremoni i adrodd sut y bu iddynt lwyddo, yn nannedd anfanteision, i oroesi eu plentyndod a chreu eu tynged eu hunain. Mae’n berfformiad ysbrydoledig, argyhoeddiadol, amrwd sy’n cynhesu’r galon, am fywyd a syrcas, adloniant a myfyrdod.
Fe’i cynhyrchwyd trwy bartneriaeth ryngwladol rhwng cyfarwyddwyr artistig o nofitstate (Cymru) a Cirkus Xanti (Norwy). Bydd As a Tiger in the Jungle yn brofiad unigryw o syrcas theatraidd!
Cefnogwyd gan NoFit State, Pontio, Baerum Kulturhus, Porsgrunn International Theater Festival, Black-E, ChoraChori Nepal.
Canllaw oedran: 8+
dyddiadau
Taith trwy Brydain 2019
Taith trwy Gymru a Lloegr yng ngwanwyn/haf 2019
|
4 Ebrill |
Sheffield University, Octagon Centre, Clarkson Street, Sheffield, |
16 Ebrill |
Park Street, Llanelli, |
17 / 18 Ebrill |
Portland Square, St Paul’s, Bristol, |
|
Bydd gwasanaeth BSL a sain-ddisgrifio ym mherfformiad dydd Gwener. |
Kingsway, Casnewydd, NP60 1HG |
9 Mai |
Free School Lane, Lincoln, |
12 Mai |
Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth |
17 - 18 Mai |
Stratford Circus Arts Centre, Theatre Square, Stratford, London, |
22 - 25 Mai |
Brighton Open Air Theatre, Park Dyke Road, Hove, |
29 Mai |
|
University of Warwick, Coventry, |
31 Mai |
Hanson Street, Barnsley, |
6 Mehefin |
Salisbury Playhouse, |
8 – 9 Mehefin |
|
Canal Wharf, Aberhonddu, LD3 7EW |
15 Mehefin |
Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, |
20 – 22 Mehefin |
Bath House Road, Aberteifi SA43 1JY |
26 – 30 Mehefin |
Worthy Farm, Worthy Lane, Pilton, Shepton Mallet, Somerset, |
Diolchiadau
Cast: Renu Ghalan Tamang (Nepal), Aman Tamang (Nepal) a Loan TP Hoang (Fietnam/Norwy)
Awdur/Cyfarwyddwr: Sverre Waage (Norwy)
Cynhyrchydd Creadigol: Ali Williams (Cymru)
Cerddoriaeth: Per Zanussi (Norwy/yr Eidal)
Cerddorion yn y stiwdio: Halpreet Bansal (India/Norwy), Sanskriti Shrestha (Nepal) a Per Zanussi (Norwy)
Set - a Dylunio Gwisgoedd: Rhi Matthews (Cymru)
Set - a Dylunio Rig y Syrcas: Tarn Aitken (Lloegr)
Dylunio'r goleuo: Leif LePage (Ffrainc/Cymru)
Helpu â'r goreograffeg a sgiliau syrcas: Hanna Filomen Mjåvatn (Philippines/Norwy) a Mish Weaver (Lloegr)
Cysylltydd
Ali Williams [email protected]
Cefndir
Perfformiad cryf i gynhesu'r galon am blant a achubwyd o fod yn gaethweision mewn syrcasau traddodiadol Indiaidd.
Ysbrydolwyd y perfformiad gan fywydau a phrofiadau ein perfformwyr Renu ac Aman a fu'n gaethweision syrcas yn India pan oeddent yn blant. Mae hefyd yn amlygu stori plant eraill o Nepal a fasnachwyd i fod yn gaethweision mewn syrcasau traddodiadol Indiaidd. Ers 2002, pan ddarganfuwyd hyn, mae dros 700 o blant wedi'u canfod a'u hachub neu eu rhyddhau.
Yn 2013, treuliodd y cynhyrchydd Ali Williams flwyddyn yn Gyfarwyddwr Creadigol Syrcas Kathmandu. Roedd Syrcas Kathmandu yn grŵp o 13 o ddynion a merched ifanc a oedd wedi'u hachub o syrcasau Indiaidd, a'n perfformwyr ni, Renu ac Aman, yn eu plith.
Gwahoddodd Ali Williams y cyfarwyddwr Sverre Waage i ddod i Kathmandu i gwrdd â'r cwmni syrcas newydd. Dyna oedd cychwyn cynllun cydweithio rhwng Ali a Sverre, gyda’r nod o adeiladu pontydd rhwng y sîn syrcas oedd yn datblygu yn Kathmandu a’r gymuned ryngwladol o gynhyrchwyr a rhaglenwyr y celfyddydau perfformio yn y Deyrnas Unedig, Norwy ac Ewrop.
Y peth cyntaf iddynt ei gyflawni yw cynhyrchu As a Tiger in The Jungle a mynd â'r sioe ar daith. Dyma bartneriaeth ryngwladol rhwng y dramodydd a'r cyfarwyddwr arobryn Sverre Waage (Norwy) ac Ali Williams (Cymru), cyd-sylfaenydd a chyn-gyfarwyddwr artistig NofitState.
Bu Ali a Sverre yn cydweithio â’r ddau artist syrcas o Nepal, Renu ac Aman, dros y tair blynedd diwethaf ac, ar gyfer y prosiect hwn, maent wedi cynnwys Loan TP Hoang, ffoadur o Fietnam, a’i stori hi am blentyndod coll. Mae As a Tiger in The Jungle yn gyfuniad unigryw o berfformiadau, syrcas a cherddoriaeth Asiaidd ac Ewropeaidd. Cyfansoddwyd y sgôr gerddoriaeth wreiddiol gan Per Zanussi.