Rhaglen ddatblygu ar gyfer sector y syrcas yw Pontio. Caiff ei rhedeg gan NoFit State Circus a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bwriad y rhaglen yw rhoi cymorth hanfodol i artistiaid a gweithwyr proffesiynol byd y syrcas wrth iddynt bontio rhwng cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd. Mae wedi cynnig pob math o hyfforddiant arbenigol, buddsoddiad ariannol a chyngor proffesiynol i weithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Bydd y rhaglen ar ei newydd wedd yn adeiladu ar flwyddyn gyntaf y prosiect ac yn darparu:
Hyfforddiant i Athrawon - Cynigir hyfforddiant i helpu athrawon syrcas i ymwneud yn hyderus â chyfran ehangach o’r gymdeithas.
Datblygu Sgiliau Proffesiynol - Cynigir sesiynau rhagarweiniol ar gyfer datblygiad proffesiynol a dosbarthiadau meistr wedi'u hanelu at ymarferwyr syrcas newydd a phrofiadol
Cynllun Cefnogi Artistiaid Ifanc - Anelir hwn yn benodol at bobl ifanc sydd wedi dod trwy syrcas ieuenctid ac artistiaid ifanc (16-25) sy’n dymuno dilyn gyrfa broffesiynol yn y syrcas
Micro-gronfa a Dargedir - Cynigir cymorth ariannol i weithwyr proffesiynol syrcas sydd:
-Ar ddechrau eu gyrfaoedd
-Yn weithwyr syrcas proffesiynol o liw boed yn ddu neu beidio
-Gweithwyr syrcas proffesiynol sydd ag anabledd neu sy’n niwroamrywiol
-Gweithwyr syrcas proffesiynol sy’n wynebu heriau ariannol
newyddion am y prosiect
Os hoffech wybod mwy am y prosiect a chael manylion cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, rhowch eich enw yn adran Gyrfaoedd, Castio a Chyfleoedd am Swyddi yn ein cylchlythyr