SABOTAGE
Perfformiad arall afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid yn arddull nodweddiadol NoFit State.
Mae SABOTAGE yn sioe fawr ysblennydd yn null y syrcas gyfoes ag iddi naws dywyllach, fwy garw a mwy chwyldroadol na’n sioeau arferol. A ninnau yn ôl yn y Big Top ag eitemau newydd anhygoel, cerddoriaeth wreiddiol, offer newydd a theimlad mwy theatraidd, mae SABOTAGE yn herio’r status quo.
Dyma sioe syrcas gyfoes sy’n eich bywiogi, yn codi’ch calon ac sy’n gymdeithasol-berthnasol. Ein teithiau personol sy’n dod â ni i’r man hwn. Mae ein brwydrau a’n breintiau wedi llywio’n taith. Serch hynny, dyma ni’n dod at ein gilydd ar dir cyffredin pabell y syrcas, a syrcas yn iaith gyffredin rhyngom. Mae SABOTAGE yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ein gwahanu a’r hyn sy’n gwneud i ni berthyn. Mae saboteurs yn sefyll allan. Maen nhw’n gwrthsefyll. Maen nhw’n herio’r sefydliad. Maen nhw’n cael eu clywed.
Syrcas i oedolion yw SABOTAGE, ond nid yw’n anaddas i blant.
Cyfarwyddir gan Firenza Guidi.
Sabotage trailer
Sioeau Gorffennol
Dyma restr o ddyddiadau teithiau blaenorol.
2023
-
Swansea, Cymru
7 Ebrill - 16 Ebrill 2023
-
Bristol, Lloegr
13 Mai - 2 Mehefin 2023
-
Lyon, Ffrainc
22 Mehefin - 8 Gorffennaf 2023
-
Antwerp, Gwlad Belg
20 Gorffennaf - 5 Awst 2023
-
Prague, Y Weriniaeth Tsiec
17 Awst - 3 Medi 2023
2022
-
Haverfordwest, Pembrokeshire
8 Ebrill - 23 Ebrill 2022
-
Merthyr Tydfil
5 Mai - 15 Mai 2022
-
Bangor
27 Mai - 11 Mehefin 2022
-
Stoke-on-Trent
23 Mehefin - 10 Gorffennaf 2022
-
Sophia Gardens, Cardiff
12 Awst - 1 Medi 2022
Y Cast a’r Criw
Mae NoFit State o’r farn bod y canlyniad yn fwy na chasgliad o elfennau unigol. Dewch i gwrdd â’r cast, y criw a’r tîm artistig a ddaeth ynghyd i wneud yr anhygoel yn bosibl.
Gweld y tîm