the wing scuffle spectacular | revel puck circus
y sioe
Mae The Wing Scuffle Spectacular yn dathlu ofn. Mae ofn yn rhan hanfodol o fywydau pawb ohonom ond anaml y byddwn ni'n dathlu yr hyn mae'n ei wneud i ni. Hebddo, sut allwn ni ddysgu neu dyfu fel pobl?
Syrcas yw’r gelfyddyd a gysylltir agosaf ag ofn ond mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n gwneud eu gorau glas i osgoi ei ddangos yn eu gwaith.
Mae The Wing Scuffle yn fflyrtio mewn ffordd hwyliog, abswrd â'r hyn na allwn ei osgoi gan lawenhau yn ein gallu i wrthsefyll ofn, a'n gallu i wneud sbort am ei ben.
y cwmni
Mae The Revel Puck Circus yn gwmni ifanc, deinamig, o Ddwyrain Llundain. Daeth eu sioe newydd sbon fel ffrwydrad ar ôl y pandemig a datblygodd The Revel Puck Circus yn gyflym i fod yn gwmni syrcas gyfoes mwyaf Llundain. Maen nhw'n awyddus i weld a gwneud syrcas mewn ffordd wahanol, gan gredu nad oes raid aberthu onestrwydd artistig, dyfnder nac adloniant er mwyn creu gwaith sy'n apelio at bob math o bobl.
Gydag amrywiaeth a diwylliant Llundain wrth galon y cwmni chwyldroadol a chroesawgar hwn, mae The Revel Puck Circus yn creu syrcas sy’n siarad â phawb ac, ar yr un pryd, yn ailddychmygu beth yw syrcas, a beth allai syrcas fod. Gall pawb fod yn Puck – dewch i ymuno yn y rhialtwch.
beth fyddwch chi’n ei weld?
Dim anifeiliaid, dim meistr y syrcas, dim clowns drwg.
Syrcas sy'n eich synnu a'ch gadael yn geg-agored. Cyfnodau o chwerthin lond eich bol. Y llawenydd o rannu profiad perfformiad byw unwaith eto!
Gallwch ddisgwyl syrcas egnïol gan gynnwys olwyn Cyr, jyglo, acrobateg unigol a gyda phartner, trapîs siglo, strapiau, Teeterboard, hongian gerfydd y gwallt, gwifren dynn, clownio a phlymio cylchyn!
ar gyfer pwy y mae?
Mae'r sioe yn addas i bob oed. Bydd gennym le i barcio bygis a sgwteri a bydd seddau hygyrch ar gael.
Mae croeso i bawb yn ein Big Top! Caiff mam-gu a dad-cu jico lan a lawr a chaiff y plantos olwg ar bethau na ddylen nhw roi cynnig arnyn nhw gartref – bydd yn hwyl!
Os oes gennych anghenion hygyrchedd neu os ydych yn defnyddio cadair olwyn, anfonwch nodyn atom ac fe wnawn ni ddarparu ar eich cyfer.
gŵyl y syrcas
Rhwng 13 ac 16 Ebrill, bydd NoFit State yn dod â The Circus Festival i Abertawe.
Bydd The Wing Scuffle Spectacular gan The Revel Puck Circus i'w gweld ochr yn ochr â SABOTAGE gan NoFit State Circus yn yr Ŵyl, fel rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau syrcas. Cyhoeddir rhagor o fanylion cyn hir.
Prynwch docynnau SABOTAGE nawr ac fe gewch docynnau The Wing Scuffle Spectacular am HANNER PRIS!
cynnig i deuluoedd
Pris arbennig o £47 i deulu o 4.
Bydd angen i chi gael o leiaf 1 oedolyn ac 1 plentyn (o dan 16) yn eich grŵp.
BARGEN GYNNARy
PRYNWCH NAWR ac fe gewch 20% oddi ar docynnau SABOTAGE a The Wing Scuffle Spectacular â chod "EarlyBird” wrth dalu.
(Daw'r cynnig i ben ddydd Sul 12 Mawrth.)
prisiau
- £16 Pris Llawn
- £12 Consesiwn
- £47 Teulu o 4 *
Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Y neges ebost o gadarnhad yw'r prawf eich bod wedi prynu tocynnau!
swyddfa docynnau
Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021
Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 6pm (ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul)
Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.
cyfarwyddiadau
Bydd pabell Big Top Revel Puck ar:
Safle Gŵyl y Pentref Syrcas, Y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.
parcio
Mae Maes Parcio y Rec nesaf at safle'r Ŵyl.
Bydd gennym ragor o fanylion am barcio i bobl anabl yn nes at yr amser.

sabotage | gŵyl y syrcas
Prynwch docynnau SABOTAGE nawr ac fe gewch docynnau The Wing Scuffle Spectacular am HANNER PRIS!
Mwy o wybodaethcwestiynau cyffredin
Mae The Wing Scuffle Spectacular yn para tuag 2awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud). Gall redeg ychydig yn hwyrach weithiau, felly dylech ystyried hynny wrth wneud trefniadau teithio.
Rydym yn cynnig tocynnau am brisiau gostyngol i:
- Pobl dros 65 oed
- Rhai o dan 16 oed
- Pobl heb gyflog
- Myfyrwyr
Gall fod angen i chi brofi’ch bod yn gymwys wrth gyrraedd.
Ydym. Os oes gennych gr?p o 10 o bobl fe gewch docyn i 1 ohonynt am ddim. Rhowch 10 tocyn yn eich basged ac fe roddir y gostyngiad yn awtomatig.
Yn achos grwpiau ysgolion ac ati, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ostyngiadau sydd ar gael.
Gallwch gysylltu â’n swyddfa docynnau ar: 02921 321 021
Mae ystafell docynnau NoFit State ar y safle yn agor awr cyn dechrau’r sioe. Does dim angen i chi gasglu tocynnau papur.
Gallwch brynu tocynnau ar y dydd os oes rhai ar ôl.
Does dim rhifau ar y seddau, ac mae golygfa wych o bob sedd!
Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Cewch stamp ar eich llaw a fydd yn caniatáu i chi fynd i mewn i'r babell.
Rhowch yr enw a roesoch wrth brynu'r tocynnau a nifer y tocynnau pan gyrhaeddwch.
Rydym yn gweithio i wneud ein perfformiadau mor hygyrch ag y bo modd. Os oes gennych chi neu un o’ch gr?p anghenion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch i holi am fanylion ac i weld sut y gallwn wneud eich ymweliad mor braf ag y bo modd.
Dylai pobl sydd â phroblemau symud roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau hwylus i chi. Mae’r babell fawr yn hollol hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn ac mae toiled hygyrch ar y safle.
Dylai pobl sydd â nam ar eu golwg roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau ger y tu blaen iddynt. Dylent roi gwybod i ni hefyd os ydynt yn dod â chi tywys gyda nhw.
Mae gennym ychydig o lefydd i bobl anabl barcio ger y safle. Cysylltwch â ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen un o’r rhain fel y gwyddom i’ch disgwyl.
Mae seddau i ofalwyr am ddim, ffoniwch dîm y swyddfa docynnau i drefnu’r rhain: 02921 321 021
